Dewis eitemau priodol o agenda y Cabinet (Adroddiadau y Cabinet yn amgaeedig ar gyfer yr aelodau craffu)
Cofnodion:
Craffodd y pwyllgor yr eitemau cabinet
canlynol:
Indemnio Swyddogion
Esboniodd swyddogion y trefniadau
presennol mewn perthynas â staff ac asedau yn ystod cyfnod trosiannol y
Ganolfan Adennill Deunydd ac Ynni (MREC) a oedd yn cael ei thynnu i mewn i gael
ei rhedeg gan y Cyngor. Cafwyd trafodaeth hefyd am gyfarwyddiaeth Coed D’arcy Cyfyngedig,
a’r cynlluniau at y dyfodol.
Ar ôl craffu, roedd y pwyllgor yn
cefnogi’r cynigion i’r cabinet eu hystyried.
Cyllid Grant y Trydydd Sector – Dyfarnu
Grantiau ar gyfer y Flwyddyn Ariannol 2020/21
(Ar y pwynt
hwn yn y cyfarfod, ail-nododd y Cynghorydd S.Reynolds ei buddiannau ac
ymddieithriodd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r pleidleisio
cysylltiedig.)
Cwestiynodd y Cynghorwyr dudalen 56 o’r
adroddiad a ddosbarthwyd mewn perthynas â chymorth ariannol i’r Gymdeithas
Gymunedol Pobl Ddu a Lleiafrifoedd Ethnig. Nodwyd na ddyfarnwyd statws
elusennol i’r sefydliad yn 2019; byddai’r arian a roddwyd yn y cyfnod hwn yn
cael ei dynnu ymlaen a’i ddefnyddio yn 2020/21.
Nododd y Cynghorwyr fod y trefniadau
monitro’n cyd-fynd yn rhesymegol ag amserlenni’r gyllideb. Roedd angen yr
adroddiadau monitro chwe misol ar bartneriaid a byddent yn darparu sicrwydd ac
eglurder ac yn rhoi gwybodaeth i’r pwyllgor craffu hwn.
Trafodwyd Deddf Enillion Troseddau
2002, a gofynnodd y Cynghorwyr am adroddiad diweddaru mewn cyfarfod yn y
dyfodol, a fyddai’n rhoi manylion y cymorth ariannol a oedd yn cael ei ddarparu
o dan y ddeddfwriaeth hon.
Ar ôl craffu, roedd y pwyllgor yn
cefnogi’r cynigion i’r cabinet eu hystyried.
(Ailymunodd y Cynghorydd S.Reynolds â’r
cyfarfod)
Dangosyddion Perfformiad Allweddol
Chwarter 2
Trafodwyd yr adroddiad a ddosbarthwyd,
a nodwyd bod nifer y diwrnodau a gollwyd oherwydd salwch yn cynnwys, yn
rhannol, straen yn gysylltiedig â’r gwaith. Roedd staff y Cyngor wedi lleihau
dros 30 y cant yn ystod y 10 mlynedd diwethaf, felly roedd llwyth gwaith ar
gynnydd.
Mewn perthynas â thrais yn erbyn
merched, nid oedd y ddeddfwriaeth gyfredol yn unol â’r galw cynyddol am
wasanaethau, ac roedd hyn wedi arwain at ddiffyg buddsoddi. Roedd cwnsela am
berthnasau’n rhan o rai gwersi mewn ysgolion, ond pwysleisiwyd bod llwyth
gwaith trwm eisoes gan athrawon a’u bod yn cael eu gorweithio; ni nodwyd unrhyw
ddatrysiadau i ddatrys y mater hwn.
Amlygwyd bod problemau o ran cadw staff
a chyflogi siaradwyr Cymraeg yn peri amser cyfartalog uchel i ateb galwadau
ffôn yn Gymraeg a Saesneg. Drwy gyflogi pedwar prentis modern, roedd hyn yn
cael ei daclo.
Ar ôl craffu, nodwyd yr adroddiad.