Adroddiad
gan Bennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Penderfyniad:
Gwneud Gorchymyn Addasu dan ddarpariaeth Deddf
Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 er mwyn ychwanegu hyd y llwybr troed o Gae'r
Parc i'r llwybr troed mabwysiedig sy'n cysylltu Dulais Fach â Stryd y Parc yng
nghymuned Tonna (A-B-C, fel y manylir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd) i'r Map
a'r Datganiad Diffiniol, ac os nad oes unrhyw wrthwynebiadau, ei gadarnhau fel
gorchymyn diwrthwynebiad.
Rheswm dros y penderfyniad:
1.
Nid oes unrhyw dystiolaeth yn
erbyn y cais neu i herio bod y preswylwyr wedi gallu cerdded ar hyd y llwybr am
y cyfnodau a honnwyd.
2.
Mae'r rhesymau dros
ddefnyddio'r llwybr hwn yn amrywiol ac fe'u cefnogir gan niferoedd sylweddol
sy'n cynrychioli'r cyhoedd yn gyffredinol.
3.
Mae'r dystiolaeth map yn
dangos bod y llwybr wedi bodoli ers o leiaf 1984, ac mae hyn ynghyd â
disgrifiadau'r rheini sy'n cefnogi'r cais yn dangos bod y llwybr wedi bod ar
gael ac wedi cael ei ddefnyddio ers o leiaf y dyddiad hwn.
4.
Mae'r lluniau a dynnwyd o'r
llwybr cyn iddo gael ei lenwi â cherrig a choncrit yn dangos cyfres o risiau a
chanllaw sy'n amlwg yn cefnogi'r honiad y bwriedid i'r grisiau hyn gael eu
defnyddio, p'un ai;
(i) At ddefnydd preswylwyr Cysgodfa yn unig neu,
(ii) At ddefnydd y cyhoedd
cyffredinol pan gwblhawyd y tai yng Nghae'r Parc.
Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:
Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i
mewn.
Ymgynghoriad:
Mae'r eitem hon wedi bod yn destun ymgynghoriad allanol.