Manylion y penderfyniad

Permission to proceed with the Remodelling of Supported Lodgings for Young People (Exempt under Paragraph 14)

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cabinet

Statws: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: Na

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Ydy

Penderfyniadau:

Penderfyniad:

 

Bod Aelodau'n rhoi caniatâd ar gyfer y canlynol:

 

·       Swyddogion i ddod â'r trefniadau comisiynu presennol i ben o 30 Ebrill 2025 ar gyfer darparu'r gwasanaeth Llety â Chymorth ac i drosglwyddo'r gwasanaeth hwn i ddarpariaeth uniongyrchol Cyngor Castell-nedd Port Talbot (dod ag ef yn fewnol).

·       Swyddogion i weithredu taliad 'sefydlu' newydd ar gyfer gwesteiwyr Llety â Chymorth newydd (hyd at werth £200 y gwesteiwr) i ad-dalu eu mân dreuliau cychwynnol wrth ymuno â'r gwasanaeth.

 

Rhesymau dros y Penderfyniad Arfaethedig:

 

Ystyried yr adnoddau gofal cymdeithasol sydd ar gael wrth gynnal asesiad neu ailasesiad o anghenion unigolion; sicrhau bod ystod gynaliadwy o wasanaethau o ansawdd da ar gael i bobl ifanc yng Nghastell-nedd Port Talbot; cyfrannu tuag at yr arbedion cyllidebol a nodwyd ym Mlaengynllun Ariannol y Cyngor; a chyfrannu at nod Llywodraeth Cymru i ail-gydbwyso’r farchnad gofal cymdeithasol drwy symud gwasanaethau i ffwrdd o sefydliadau er elw.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Cynigir rhoi'r penderfyniad ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau.

 

 

 

Dyddiad cyhoeddi: 17/02/2025

Dyddiad y penderfyniad: 05/02/2025

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 05/02/2025 - Y Cabinet

Effective from: 10/02/2025

Dogfennau Cefnogol: