Manylion y penderfyniad

Strategy & Corporate Services - Delivery Plan & Half Yearly Monitoring

Statws: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: Na

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na

Penderfyniadau:

Ystyriodd yr aelodau’r adroddiad a ddosbarthwyd ym mhecyn yr agenda.

 

Amlinellodd y Cyfarwyddwr bwysigrwydd y tri maes gwasanaeth wrth ategu'r Cynllun Corfforaethol. Mae'n bwysig bod y cynlluniau cyflawni ar waith ac i aelodau ddeall a gweld sut mae timau'n llwyddo i gyflawni yn erbyn y cynlluniau hynny.

 

Croesawodd yr aelodau fanylion y blaenoriaethau a'r naratif ynghylch y rhain a oedd yn amlinellu'r cynnydd a wnaed yn eu herbyn, a nodir yn yr adroddiad. O ran cyflwyno'r adroddiad, lle nodir mesurau perfformiad penodol, crybwyllir eu bod ar y trywydd iawn. Fodd bynnag, nid yw'r targed wedi'i nodi yn yr adroddiad. Mae peth o'r naratif yn nodi'r targedau, ac mae hyn yn ei gwneud hi'n haws gweld lle mae rhywbeth ar y trywydd iawn. Mae rhai o'r eitemau'n cael eu cyflwyno fel data, heb darged, ond crybwyllir eu bod ar y trywydd iawn. Mynegodd yr aelodau eu dryswch ynghylch eitemau sy'n cael eu nodi'n wyrdd er bod y data'n cael ei gyflwyno at ddibenion monitro'n unig.

 

Nododd swyddogion y sylwadau, gan dderbyn bod gwaith i'w wneud o ran cyflwyno data mesuradwy ac ansoddol yn yr adroddiadau monitro.

 

Yn dilyn gwaith craffu, nododd yr aelodau'r adroddiad.

 

Dyddiad cyhoeddi: 06/02/2025

Dyddiad y penderfyniad: 28/11/2024

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 28/11/2024 - Pwyllgor Craffu’r Gymuned, Cyllid ac Arweinyddiaeth Strategol

Dogfennau Cefnogol: