Manylion y penderfyniad

Replacement Community Services Transport Vehicle

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cabinet

Statws: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: Na

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na

Penderfyniadau:

 

Penderfyniadau:

 

1.       Atal Rheol 11.4.1 y Rheolau Gweithdrefn Contractau.

 

2.       Rhoi awdurdod dirprwyedig i'r Pennaeth Peirianneg a Thrafnidiaeth ymrwymo i gontract ar gyfer prynu dau fws mini ail-law ag 17 sedd sydd wedi'u haddasu ar gyfer cadeiriau olwyn, at ddibenion cludo defnyddwyr gwasanaeth ag anghenion cymhleth, a chael gwared ar yr hen gerbydau, am y swm a nodir yn yr adroddiad preifat a ddosbarthwyd.

 

Rheswm dros y Penderfyniadau:

 

Galluogi'r Cyngor i sicrhau'r bysus cyn iddynt gael eu gwerthu i sefydliad arall. Bydd y bysus yn darparu cludiant o ansawdd gwell i breswylwyr mwyaf diamddiffyn Castell-nedd a Phort Talbot y mae angen iddynt gael mynediad at wasanaethau gofal dydd.

 

Rhoi Penderfyniadau ar Waith:

 

Bydd y penderfyniadau'n cael eu rhoi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau.

 

 

 

Dyddiad cyhoeddi: 27/06/2024

Dyddiad y penderfyniad: 29/05/2024

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 29/05/2024 - Y Cabinet

Dogfennau Cefnogol: