Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cabinet
Statws: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: Na
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na
Penderfyniadau:
Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r asesiad sgrinio effaith
integredig, rhoddir awdurdod dirprwyedig i'r Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol
a Democrataidd, mewn ymgynghoriad ag Aelod y Cabinet dros Gyllid, Perfformiad a
Chyfiawnder Cymdeithasol, wneud y canlynol –
• cytuno ar y disgrifiad swydd, y telerau cytundebol a'r broses benodi ar
gyfer y swydd Uwch-grwner a gwneud trefniadau addas ar gyfer hysbysebu'r swydd
yn briodol;
•
cymryd yr holl gamau
angenrheidiol i symud y broses o benodi Uwch-grwner yn ei blaen;
•
mewn ymgynghoriad â Chyngor
Dinas a Sir Abertawe a Swyddfa'r Prif Grwner, sefydlu panel er mwyn llunio
rhestr fer, cyfweld ag ymgeiswyr a phenodi'r ymgeisydd llwyddiannus yn
Uwch-grwner ar gyfer Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot.
Rheswm dros y Penderfyniadau:
Sicrhau y penodir Uwch-grwner ar gyfer Abertawe a
Chastell-nedd Port Talbot a bodloni gofynion cyfreithiol Deddf Crwneriaid a
Chyfiawnder 2009.
Rhoi Penderfyniadau ar Waith:
Bydd y penderfyniadau'n cael eu rhoi ar waith ar ôl
y cyfnod galw i mewn o dridiau.
Dyddiad cyhoeddi: 27/06/2024
Dyddiad y penderfyniad: 29/05/2024
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 29/05/2024 - Y Cabinet
Dogfennau Cefnogol: