Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cabinet
Statws: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: Na
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na
Ar y pwynt hwn, ailbwysleisiodd y Cynghorwyr E V
Latham ac L Jones eu buddiannau a gadawsant y cyfarfod. Penodwyd y Cynghorydd Peter Rees yn Gadeirydd
am weddill y cyfarfod.
Penderfyniadau:
Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r Asesiad Effaith Sgrinio
Integredig,
cymeradwyo'r ceisiadau canlynol i Gronfa Gymunedol
yr Aelodau:
(a) Y
Cynghorydd Rhidian Mizen am gofeb i goffáu'r cerddor a'r cyfansoddwr Afan
Thomas fel y nodir yn Atodiad A yr adroddiad a ddosbarthwyd.
(b) Y
Cynghorwyr Robert Wood, Suzanne Paddison ac Oliver Davies am gyflenwi a gosod
pum mainc ychwanegol yn Aqua Splash Aberafan fel y nodir yn Atodiad B yr
adroddiad a ddosbarthwyd.
(c) Y
Cynghorwyr Wyndham Griffiths, Chris Williams a Jo Hale am uwchraddio llifoleuadau
yng Nghlwb Chwaraeon Bryncoch, fel y nodir yn Atodiad C yr adroddiad a
ddosbarthwyd.
(ch) Y
Cynghorydd Anthony Richards am ddarparu wyth o ddysglau plannu uchel ar gyfer
Canol Tref Pontardawe, fel y nodir yn Atodiad D yr adroddiad a ddosbarthwyd.
(d) Y
Cynghorwyr Edward Latham, Mathew Crowley a Sean Pursey ar gyfer adnewyddu ac
addasu'r ardal sydd ar hyn o bryd yn bedwar cwrt ym Mharc Vivian, fel y nodir
yn Atodiad E o'r adroddiad a ddosbarthwyd.
(dd)
Y Cynghorydd Arwyn Woolcock ar gyfer Cyflenwi a Gosod Diffibriliwr yng
Nghlwb Rygbi Brynaman, fel y nodir yn Atodiad F yr adroddiad a ddosbarthwyd.
(e) Y
Cynghorydd Jane Jones i gynorthwyo'r gwaith o amddiffyn rhag y tywydd ac
ailaddurno Neuadd Gymunedol Glowyr Gwynfi, fel y nodir yn Atodiad G yr
adroddiad a ddosbarthwyd.
(f) Y
Cynghorydd Jeremy Hurley i gaffael offer cynnal a chadw tir hanfodol ar gyfer
Clwb Rygbi Tonmawr ym Mhelenna, fel y nodir yn Atodiad H yr adroddiad a
ddosbarthwyd.
(ff) Y
Cynghorydd Jeremy Hurley i gaffael offer hyfforddi hanfodol ar gyfer adran
plant bach ac iau Clwb Rygbi Tonmawr fel y nodir yn Atodiad I yr adroddiad a
ddosbarthwyd.
(g) Y
Cynghorydd Leanne Jones i gaffael cyfleusterau newid ar ffurf caban symudol ar
gyfer timau hŷn ac iau Clwb Rygbi a Chlwb Pêl-droed Tonna, fel y nodir yn
Atodiad J yr adroddiad a ddosbarthwyd
(ng)
Y Cynghorydd Arwyn Woolcock ar gyfer Cyflenwi a Gosod Diffibriliwr yng
Nghlwb a Sefydliad Gweithwyr Tairgwaith, fel y nodir yn Atodiad K yr adroddiad
a ddosbarthwyd.
(h)
Y Cynghorydd Rob Jones ar gyfer gwelliannau i'r ardal chwarae a yn
Ffordd Derwen, Coed Hirwaun, Margam, fel y nodir yn Atodiad L yr adroddiad a
ddosbarthwyd.
(i)
Y Cynghorydd Arwyn Woolcock i brynu offer caffi ac arlwyo hanfodol ar
gyfer Clwb Trotian Dyffryn Aman, fel y nodir yn Atodiad M yr adroddiad a
ddosbarthwyd.
(j)
Y Cynghorwyr John Warman ac Adam McGrath i sefydlu Clwb Ysgol Goedwig ar
gyfer plant sy'n agored i niwed yn Ysgol Gynradd Crynallt, fel y nodir yn
Atodiad N yr adroddiad a ddosbarthwyd.
(l)
Y Cynghorydd Helen Ceri Clarke i brynu diffibriliwr ar gyfer Clwb Bowlio
BP Llandarcy, fel y nodir yn Atodiad O yr adroddiad a ddosbarthwyd.
(ll)
Y Cynghorydd Stephanie Lynch ar gyfer cyflenwi a gosod cyfarpar newydd
ar gyfer y lle chwarae yn ardal chwarae Bishop's Mead, fel y nodir yn Atodiad P
yr adroddiad a ddosbarthwyd.
(m)
Y Cynghorydd John Warman i gaffael offer hyfforddi hanfodol ar gyfer
timau pêl-droed Plant Bach ac Iau clwb pêl-droed Cimla, a chit newydd ar gyfer
tîm newydd dan 11 oed, fel y nodir yn Atodiad Q yr adroddiad a ddosbarthwyd.
(n)
Y Cynghorydd Stephen Hunt i gyflenwi a gosod dau drampolîn newydd ar
lefel y ddaear ar gyfer y ddarpariaeth
chwarae bresennol yng Nghaeau Chwarae Ynysdawley, Nant y Cafn, ym Mhlaendulais,
fel y nodir yn Atodiad R yr adroddiad a ddosbarthwyd.
(o)
Y Cynghorwyr Anthony Taylor a Rachel Taylor i ategu a gwella'r
ddarpariaeth yn ardal chwarae Goytre Close, fel y nodir yn Atodiad S yr
adroddiad a ddosbarthwyd.
(p)
Y Cynghorydd Anthony Richards i ddatblygu ardal 'sy'n addas i
deuluoedd' ar iard Canolfan Dreftadaeth
ac Ymwelwyr Pontardawe, fel y nodir yn Atodiad T yr adroddiad a ddosbarthwyd.
Rheswm dros y penderfyniadau:
Er mwyn galluogi i geisiadau i Gronfa Gymunedol yr
Aelodau gael eu hystyried a'u cymeradwyo.
Rhoi'r Penderfyniadau ar Waith:
Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod
galw i mewn o dridiau.
Dyddiad cyhoeddi: 13/09/2022
Dyddiad y penderfyniad: 17/11/2021
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 17/11/2021 - Y Cabinet
Dogfennau Cefnogol: