Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cabinet
Statws: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: Na
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Ydy
Penderfyniadau:
1.
Bod y rhestr fer o brosiectau Castell-nedd
Port Talbot i'w chyflwyno i Gronfa Adfywio Cymunedol Llywodraeth y DU yn cael
ei chymeradwyo.
2.
Bod Cyfarwyddwr yr Amgylchedd
ac Adfywio, mewn ymgynghoriad â'r Arweinydd a'r Aelod(au) Cabinet perthnasol,
yn cael awdurdod dirprwyedig i gymeradwyo cyflwyno ceisiadau Cronfa Adfywio
Cymunedol y DU i lywodraeth y DU erbyn y dyddiad cau sef 18 Mehefin 2021.
3.
Bod Cyfarwyddwr yr Amgylchedd
ac Adfywio, mewn ymgynghoriad â'r Cyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau
Corfforaethol a'r Arweinydd a'r Aelod(au) Cabinet perthnasol, yn cael ei
awdurdodi i ymrwymo i gytundebau grant neu ddogfennau cysylltiedig a allai fod
yn angenrheidiol i dynnu arian o Gronfa Adfywio Cymunedol y DU.
Rheswm
dros y penderfyniadau:
Galluogi Swyddogion i
gyflwyno rhestr fer Ceisiadau Castell-nedd Port Talbot i Lywodraeth y DU i
wneud cais i Gronfa Adfywio Cymunedol y DU.
Rhoi
Penderfyniadau ar Waith:
Caiff y penderfyniad ei
roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau.
Dyddiad cyhoeddi: 12/07/2021
Dyddiad y penderfyniad: 09/06/2021
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 09/06/2021 - Y Cabinet
Effective from: 14/06/2021
Dogfennau Cefnogol: