Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cabinet
Statws: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: Na
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Ydy
Penderfyniadau:
Ar ôl rhoi sylw dyladwy
i'r Asesiad Effaith Integredig:
1.
Cymeradwyo ceisiadau etholaethau
Castell-nedd ac Aberafan i'r Gronfa Codi'r Gwastad fel y nodir yn yr adroddiad
a ddosbarthwyd.
2.
Rhoddir awdurdod dirprwyedig i
Gyfarwyddwr yr Amgylchedd ac Adfywio, mewn ymgynghoriad â'r Arweinydd a'r
Aelod(au) Cabinet perthnasol, i gymeradwyo'r achos busnes i'w gyflwyno i
Lywodraeth y DU erbyn y dyddiad cau o 18 Mehefin.
3.
Rhoddir awdurdod i Gyfarwyddwr
yr Amgylchedd ac Adfywio, mewn ymgynghoriad â'r Cyfarwyddwr Cyllid a
Gwasanaethau Corfforaethol a'r Arweinydd a'r Aelod(au) Cabinet perthnasol, i
ymrwymo i gytundebau grant neu ddogfennaeth gysylltiedig a allai fod yn
angenrheidiol i dynnu arian o'r Gronfa Codi'r Gwastad.
Rheswm
dros y penderfyniadau:
Galluogi'r cyngor i
gyflwyno ceisiadau etholaethau Castell-nedd ac Aberafan i'r Gronfa Codi'r Gwastad
yn ffurfiol i Lywodraeth y DU.
Rhoi
Penderfyniadau ar Waith:
Caiff y penderfyniadau
eu rhoi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn.
Ymgynghoriad:
Mae'r eitem hon wedi
bod yn destun ymgynghoriad allanol. Cronfa Codi'r Gwastad - mae'n ofynnol i
awdurdodau sy'n gwneud cais ymgynghori ag amrywiaeth o randdeiliaid lleol wrth
ddatblygu eu buddsoddiadau arfaethedig ar gyfer y Gronfa Codi'r Gwastad (a
dangos tystiolaeth o ymgysylltu), gan gynnwys ceisio cymeradwyaeth Aelod Seneddol
fel y nodir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.
Dyddiad cyhoeddi: 12/07/2021
Dyddiad y penderfyniad: 09/06/2021
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 09/06/2021 - Y Cabinet
Effective from: 14/06/2021
Dogfennau Cefnogol: