Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Bwrdd Gofal Cymdeithasol, Iechyd a Lles y Cabinet
Statws: Recommendations Approved
Is AllweddolPenderfyniad?: Na
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Ydy
Penderfyniadau:
1.
Parheir i eithrio Rheol 2 y
Rheolau Gweithdrefnau Contractau, ac awdurdodir y cyngor i estyn a diwygio'r
cytundeb cydweithio mewn perthynas â'r gwasanaethau addysg yn Hillside gyda'r
ysgol, ar y telerau a nodwyd yn yr adroddiad a gylchredwyd;
2.
Bydd Cyfarwyddwr y
Gwasanaethau Cymdeithasol, Iechyd a Thai, Pennaeth Cyfranogiad y Cyngor a
Rheolwr Canolfan Hillside, yn parhau i gael eu dynodi'n gynrychiolwyr ar gyfer
y cyngor hwn at ddibenion y Cytundeb Cydweithio. Gweithredu holl bwerau dirprwyedig y fath
gynrychiolydd ar ran y cyngor, ac yn ychwanegol, ddirprwyo'r pŵer i benodi
cynrychiolydd amgen neu ddirprwy at ddibenion y Cytundeb Cydweithio i
Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol, Iechyd a Thai, Pennaeth Cyfranogiad y
cyngor a Rheolwr Canolfan Hillside.
3.
Rhoddir awdurdod dirprwyedig i
Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol, Iechyd a Lles mewn ymgynghoriad â Phennaeth y Gwasanaethau
Cyfreithiol i drafod y Weithred Amrywio a chytuno arno, ac wedi hynny,
awdurdodi Pennaeth y Gwasanaethau Cymdeithasol i ymrwymo i'r cytundeb ac unrhyw
ddogfennaeth gysylltiedig.
Rhesymau
dros y Penderfyniadau:
Bydd yr amrywiad o'r
cytundeb Cydweithio rhwng y cyngor a'r ysgol yn gwella'r ddarpariaeth
ymhellach. Bydd yn parhau i ganiatáu
gwell reolaeth a goruchwylio, er mwyn cyfoethogi cyfleoedd datblygu
proffesiynol ymhellach ar gyfer staff Addysg Hillside. Bydd Cytundeb
Cydweithio'n sicrhau bod trefniadau addas ar waith ar gyfer y saith mlynedd
nesaf.
Rhoi
Penderfyniadau ar Waith:
Caiff y penderfyniad ei
roi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn.
Dyddiad cyhoeddi: 10/10/2019
Dyddiad y penderfyniad: 05/09/2019
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 05/09/2019 - Bwrdd Gofal Cymdeithasol, Iechyd a Lles y Cabinet
Effective from: 11/09/2019
Dogfennau Cefnogol: