Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio
Statws: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: Na
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na
Derbyniodd yr aelodau
drosolwg o'r adroddiad a ddosbarthwyd ac ychwanegwyd bod yr adolygiad o
drefniadau comisiynu wedi'i gwblhau. Mae'r adroddiad wedi'i gyhoeddi a chaiff ei gyflwyno i'r Pwyllgor
Llywodraethu ac Archwilio ym mis Gorffennaf.
Eglurodd
cynrychiolwyr Archwilio Cymru eu bod yn cwblhau'r adroddiad am yr adolygiad o
drefniadau seiber y cyngor ac yn ddiweddar cwblhawyd gwaith maes yr adolygiad o
drefniadau rheoli risg. Cyflwynir y ddau adroddiad hynny i'r Pwyllgor
Llywodraethu ac Archwilio maes o law.
Gofynnodd yr aelodau beth oedd yr amserlen ar gyfer y
trefniadau rheoli risg.
Esboniodd Archwilio Cymru mai'r bwriad yw cyhoeddi
adroddiad drafft i'r cyngor ym mis Mehefin. Esboniodd y swyddogion y byddent yn
ceisio cyflwyno'r adroddiad i'r pwyllgor erbyn mis Medi/Hydref 2025. Gofynnodd
yr aelodau faint o amser y bydd rheolwyr yn ei gael i ymateb i'r adroddiad
drafft pan gaiff ei gyflwyno. Esboniodd Archwilio Cymru y byddai ganddynt
bythefnos i ymateb.
O ran y grantiau, gofynnwyd i'r aelodau a oes unrhyw beth
sy'n destun pryder i'r pwyllgor o ran yr amser rhwng diwedd grant a'r hawliad
a'r atebolrwydd.
Eglurodd Archwilio Cymru fod y rhan fwyaf o'r achosion o
oedi'n deillio o Archwilio Cymru. Roedd oedi o ran nifer o feysydd gwaith ar ôl
COVID a rhai problemau o ran adnoddau sydd bellach wedi'u datrys. Mynegodd Archwilio Cymru y bu mwy o
oedi nag a ddylai wedi bod, ond mae'r sefydliad
bellach mewn sefyllfa well ac nid oes unrhyw effaith ar delerau'r cyllid ar
gyfer y grantiau.
PENDERFYNWYD:
Nodi'r adroddiad.
Dyddiad cyhoeddi: 07/07/2025
Dyddiad y penderfyniad: 20/05/2025
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 20/05/2025 - Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio
Dogfennau Cefnogol: