Manylion y penderfyniad

Audit Wales NPT Financial Sustainability and Local Government Sustainability Reports

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio

Statws: Recommendations Approved

Is AllweddolPenderfyniad?: Na

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na

Penderfyniadau:

 

. Derbyniodd yr aelodau drosolwg o'r adroddiadau a ddosbarthwyd.

 

Crybwyllodd yr aelodau fod pedwar pwynt o dan y pennawd Arddangosyn 2 Themâu Cyffredin Adroddiadau Adran 114, ac mae'r trydydd pwynt yn nodi bod thema gyffredin adroddiadau Adran 114 yn adrodd am brosesau llywodraethu annigonol ac yn tynnu sylw at ddiffyg goruchwyliaeth sylweddol gan gynghorwyr.

Dywedodd yr aelodau ei bod yn bwysig bod aelodau'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio yn deall eu rôl ac yn cyflawni eu briff.

Mewn perthynas ag amseriad yr adroddiad, tynnodd yr aelodau sylw at y ffaith ei fod wedi'i gyhoeddi ym mis Medi 2024, a gofynnwyd a oedd rheswm pam nad oedd wedi'i gyflwyno i'r pwyllgor yn gynharach. Esboniodd y swyddogion eu bod am aros i'r adroddiad cenedlaethol gael ei gyhoeddi cyn i'r adroddiad lleol gael ei gyflwyno, gan fod hynny'n darparu rhywfaint o gyd-destun.

Soniodd yr aelodau fod canfyddiadau cyffredin rhyngddo a'r adroddiad cenedlaethol, a gofynnwyd a oedd Archwilio Cymru'n bwriadu gwneud unrhyw beth arall yn hyn o beth gan fod y mater hwn yn peri problemau i lawer o awdurdodau.

Esboniodd Archwilio Cymru fod y gwaith hwn wedi arwain at gynnwys dau ddarn arall o waith yn rhaglen astudiaethau llywodraeth leol 2025/26. Mae un yn ystyried sut mae llywodraeth leol yn cael ei hariannu: esboniodd Archwilio Cymru fod rhai negeseuon cyson ynglŷn â'r problemau a achosir i gynghorau gan ddiffyg setliadau aml-flwyddyn, dyfodiad hwyr y ffigyrau am setliadau i lywodraeth leol a rhai o'r heriau hynny ynghylch dyletswyddau ychwanegol, a phwerau sy'n cael eu rhoi i lywodraeth leol heb y cyllid i gyd-fynd â nhw. Tynnodd Archwilio Cymru sylw at y ffaith y byddai hyn yn cael ei ystyried yn fanylach.

Tynnodd Archwilio Cymru sylw at y darn arall o waith ychwanegol yn y maes hwn, sef balansau ysgolion, sy’n amlwg yn gwaethygu. Dyna’r ddau ddarn o waith a nodwyd. O ran y cyd-destun lleol, eglurodd Archwilio Cymru fod gwaith sicrhau ansawdd ac asesu risg yn parhau a bod gwybodaeth yn cael ei chadw am yr hyn y mae'r cyngor yn ei wneud mewn ymateb i'r argymhellion sydd wedi'u cyflwyno.  Tynnodd Archwilio Cymru sylw at y ffaith bod rhan o ddyletswydd y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio yw ymfodloni bod y cyngor yn rhoi sylw dyladwy i argymhellion archwilwyr allanol ac argymhellion ei archwiliad mewnol ei hun.

Dywedodd y swyddogion y byddent yn cyflwyno'r newyddion diweddaraf am y Cynllun Ariannol Tymor Canolig i'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ym mis Medi.

 

PENDERFYNWYD:

Nodi'r adroddiad.

 

 

 



 

 

 

 



 

 

 

 

Dyddiad cyhoeddi: 07/07/2025

Dyddiad y penderfyniad: 20/05/2025

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 20/05/2025 - Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio

Dogfennau Cefnogol: