Manylion y penderfyniad

West Glamorgan Regional Partnership Board

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Craffu'r Gwasanaethau Cymdeithasol, Tai a Diogelwch Cymunedol

Statws: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: Na

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na

Penderfyniadau:

Cyflwynodd Cyfarwyddwr Rhaglen Trawsnewid Rhanbarthol Gorllewin Morgannwg waith Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gorllewin Morgannwg; mae aelodaeth y bwrdd yn cynnwys Cynghorau Castell-nedd Port Talbot ac Abertawe, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe a phartneriaid y trydydd sector. Sefydlwyd Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Bae'r Gorllewin yn 2016 o dan ganllawiau Rhan 9 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant, ac roedd yn cynnwys Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr i ddechrau. Fodd bynnag, yn dilyn newidiadau i ffiniau'r bwrdd iechyd yn 2019, ailenwyd y rhanbarth yn Orllewin Morgannwg.

 

Sefydlwyd trefniadau llywodraethu newydd yn 2019, gyda Chyfarwyddwyr a Phenaethiaid Gwasanaeth yn cydweithio ar weithrediadau yn y dyfodol. Bob blwyddyn, mae cynllun ardal pum mlynedd yn cael ei ddatblygu yn seiliedig ar yr asesiad o anghenion poblogaeth sy'n cael ei gynnal bob pum mlynedd. Flwyddyn ar ôl yr asesiad, crëir cynllun ardal strategol sy'n mynd i'r afael â blaenoriaethau rhanbarthol a materion penodol i'r boblogaeth.  Mae'r cynllun ardal a'r cynllun gweithredu presennol a gymeradwywyd ar 25 Ionawr 2023 yn cwmpasu 2023 i 2027.

 

Mae'r Bwrdd Partneriaeth yn adrodd i Gabinet lleol y bwrdd iechyd ac awdurdodau lleol, a chyflwynir unrhyw newidiadau i'r ddarpariaeth gwasanaethau i'r cabinetau lleol hyn. Mae gan y bwrdd aelodaeth amrywiol ac mae'n parhau i ehangu yn unol â gorchymyn Llywodraeth Cymru, gydag aelodau cyfetholedig ychwanegol yn ôl yr angen.

 

Mae tri bwrdd llywio a chynghori, y mae gan bob un raglenni gwahanol:

 

1. Bwrdd Llywio a Chynghori 1

• Bwrdd Rhaglen Cymunedau a Phobl Hŷn: ei nod yw lleihau oedi wrth ryddhau cleifion o'r ysbyty ac atal y broses rhag gwaethygu i'r pwynt y mae angen gwasanaethau gofal a reolir.

• Partneriaeth Gofalwyr: cefnogi gofalwyr di-dâl gyda strategaeth a chynllun gwaith blaenoriaeth a ddatblygwyd ar y cyd.

• Rhaglen Dementia: ymgysylltu'r gymuned, gan gynnwys ymgyrch wrando ym Maglan, i lunio strategaeth ar gyfer Gorllewin Morgannwg.

 

2. Bwrdd Llywio a Chynghori 2

• Bwrdd Rhaglen Lles ac Anableddau Dysgu: cydweithio ag unigolion ag anableddau i ddatblygu Strategaeth Lles.

•Bwrdd Iechyd Meddwl a Lles: canolbwyntio ar atal materion lles emosiynol a galluogi pobl i aros yn iach gartref.

• Rhaglen Gomisiynu Ranbarthol: Asesu adroddiadau sefydlogrwydd y farchnad a gallu gwasanaethau gofal a reolir, gan gynnwys lleoliadau preswyl ar gyfer oedolion hŷn. Mae'r rhaglen newydd hon wrthi'n diffinio ei chylch gorchwyl a'i blaenoriaethau.

 

3. Bwrdd Llywio a Chynghori 3

• Bwrdd y Rhaglen i Blant a Phobl Ifanc: Yn cefnogi plant ag anghenion cymhleth i aros gartref ac i osgoi symud i ofal.

• Rhaglen Niwroamrywiol: Yn datblygu strategaeth i gefnogi unigolion â niwroamrywiaeth, gyda'r nod o leihau rhestrau aros a diagnosisau diangen, ac i helpu pobl i fyw eu bywydau gorau yn y gymuned.  Mae'r fenter hon yn cynnwys ymdrechion cyd-gynhyrchu a chyfathrebu helaeth.

 

Bydd rhagor o fanylion am y strategaethau hyn ar gael unwaith y byddant wedi'u cwblhau. 

Mae nifer o raglenni cefnogol wedi'u hategu gan raglen gyfalaf fawr, sy'n hwyluso mentrau eraill. Ar hyn o bryd, mae'r fenter trawsnewid digidol a data wedi'i gohirio oherwydd rhaglen Cysylltu Gofal newydd Llywodraeth Cymru. Yn ogystal, mae Mosaic wedi'i lansio yng Nghastell-nedd Port Talbot a bydd yn cael ei fabwysiadu ledled y rhanbarth, gan ganiatáu rhannu data yn fwy effeithiol.

 

O ran mentrau'r gweithlu, mae gwaith sylweddol ar y gweill o dan y Rhaglen Datblygu'r Gweithlu Gofal Cymdeithasol (SCWDP), ac mae cydweithio'n parhau â'r adran hyfforddi i sicrhau bod cysylltiadau gweithlu'r rhaglen SCWDP yn cefnogi'r prosiectau rhanbarthol.

 

Mae adroddiad yn cael ei lunio bob tair blynedd i ddogfennu'r gwaith a wneir gyda'r trydydd sector a'r sector nid er elw i sicrhau bod adran 16 yn cael ei hystyried ar draws pob rhaglen.

 

Cyfanswm y gwariant ar draws y rhanbarth yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf oedd £18,909,515, ac mae hyn wedi'i rannu rhwng y trydydd sector (24%) a phartneriaid statudol (76%). Ar hyn o bryd, y bartneriaeth yw'r unig un yng Nghymru i gyflawni targed Llywodraeth Cymru ar gyfer cyllid y trydydd sector ac mae'r bartneriaeth yn cael ei pharchu'n fawr o ganlyniad i waith gyda'r trydydd sector. Disgwylir i'r buddsoddiad ddod i ben ym mis Mawrth 2027, ac mae hyn yn risg i raglenni gwaith. Mae sgyrsiau wedi’u cynnal â Llywodraeth Cymru ynghylch cyllid yn y dyfodol.

 

Rhoddodd Cyfarwyddwr y Rhaglen wybodaeth i aelodau am y rhaglen anabledd dysgu, gyda ffocws ar fynediad at drafnidiaeth. Mae gwaith wedi'i wneud gyda chwmnïau teithio i ymchwilio i sut y gall trafnidiaeth fod yn fwy hygyrch. Cynhaliwyd gweithdy gyda darparwyr trafnidiaeth ledled y rhanbarth. Nodwyd bod rhai o'r problemau a wynebir gan bobl ag anableddau dysgu yn gyffredin ar draws y boblogaeth gyffredinol.

 

Mae'r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol wedi ysgrifennu at Weinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth Llywodraeth Cymru mewn perthynas â siarter trafnidiaeth newydd, ac mae cyfarfod wedi'i gynllunio ag arweinydd y cyngor.  Er gwaethaf yr heriau a wynebwyd, gan gynnwys oedi a achosir gan COVID-19, mae cynnydd sylweddol wedi'i wneud. Mae cydweithio ac ymgysylltu yn hanfodol ar gyfer llwyddiant yn y dyfodol.

 

O ran asesiadau anghenion, gofynnodd yr aelodau sut mae gwaith yn cael ei gydweithio drwy'r gwahanol bartneriaid?

 

Cynghorodd swyddogion yr aelodau fod asesiadau lles yn cael eu cynnal gan Fyrddau Gwasanaethau Cyhoeddus Castell-nedd Port Talbot ac Abertawe, a bod data a gesglir o'r asesiad anghenion poblogaeth a'r asesiadau lles o wahanol ffynonellau ar draws y bartneriaeth, gan gynnwys cynghorau, byrddau iechyd a Llywodraeth Cymru, yn cael ei rannu i beidio â dyblygu ymdrech ac i sicrhau cysondeb. Mae bylchau yn y data, er enghraifft, ar gyfer unigolion niwroamrywiol ledled Cymru, ac mae ymdrechion yn cael eu gwneud i wella casglu data ar gyfer asesiadau o anghenion y boblogaeth yn y dyfodol, yn enwedig gan fod COVID-19 wedi newid amgylchiadau'n sylweddol. Mae'r bartneriaeth yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â bylchau data ac i sicrhau casglu data cynhwysfawr.

 

Gofynnodd yr aelodau a oedd sylfaen dystiolaeth i gefnogi'r ffaith bod pobl hŷn am aros yn eu cartrefi eu hunain yn hytrach na byw gyda chymorth, bod pobl hŷn yn cael eu cefnogi i aros gartref ond gallant ddioddef o unigedd ac unigrwydd.

 

Cynghorodd swyddogion yr aelodau fod gweithwyr cymdeithasol ac ymarferwyr yn cael sgyrsiau ag unigolion i ddeall eu dewisiadau. Yn ogystal, gwneir ymdrechion i archwilio cynigion cymunedol a mynediad at weithgareddau lleol i fynd i'r afael ag unigedd. Mae'n fater cymhleth sy'n gofyn am ymagwedd amlweddog.

 

Dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol, Iechyd a Thai, er ei fod hi'n well gan bobl aros yn eu cartrefi eu hunain yn gyffredinol, mae cynnal trafodaethau a dewisiadau unigol yn hanfodol. Yn y gorffennol, roedd opsiynau tai cyfyngedig yn gorfodi pobl i ddewis rhwng aros gartref neu symud i ofal preswyl. Mae'r strategaeth yn cynnwys buddsoddi mewn opsiynau tai amrywiol fel byw â chymorth a phentrefi i bobl hŷn. Nod y dull hwn yw darparu cefnogaeth i'r rhai sydd am aros gartref a chynnig lleoliadau cymunedol i'r rhai y mae'n well ganddynt byw mewn lleoliadau cymunedol.

 

Holodd yr aelodau am restrau aros ar gyfer cyflyrau niwroamrywiol a sut y gall hyn effeithio ar unigolion a'u teuluoedd. Nodwyd y gall dogfennaeth hawdd ei darllen ac addasiadau syml eraill wneud gwahaniaeth. Awgrymodd y Cadeirydd fod angen mwy o ymgyrchoedd cynyddu ymwybyddiaeth yn y dyfodol.

 

Cynghorodd swyddogion yr aelodau fod y rhanbarth wedi lansio’r ymgyrch Chwalu Mythau ar gyfer niwroamrywiaeth yn ddiweddar, sydd wedi denu sylw cenedlaethol. Mae'r ymgyrch yn mynd i'r afael â sut i gefnogi pobl wrth iddynt fod ar restrau aros. Mae'r fenter ar gam cynnar, gyda mwy o waith lleol wedi'i gynllunio i ddatblygu'r rhaglen ymhellach. Bydd manylion yr ymgyrch yn cael eu rhannu ag aelodau.

 

Cynghorodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol, Iechyd a Thai yr aelodau fod y cyflwyniad yn rhoi trosolwg o'r bwrdd partneriaeth rhanbarthol a'i waith helaeth. Er nad oedd trafodaethau manwl ar feysydd penodol yn bosib yn y cyfarfod hwn, gellir darparu rhagor o wybodaeth am bynciau fel y llwybr niwroamrywiaeth, gwaith gyda phlant a phobl ifanc, pobl hŷn, a rhyddhau o'r ysbyty. Gellir dod â swyddogion perthnasol i mewn i drafod y manylion hyn ar gais.

 

Cyfeiriodd yr aelodau at dudalen saith o'r adroddiad a sefydlu cronfeydd cyfunol. Gofynnodd yr aelodau sut mae hyn wedi gweithio, a yw'n cael ei wneud yn deg a beth fu'r effaith?

 

Cynghorodd swyddogion yr aelodau fod Llywodraeth Cymru yn hyrwyddo sefydlu cronfeydd cyfunol, ac mae gan y rhanbarth gronfeydd cyfunol eisoes ar gyfer gwasanaethau gofal canolraddol ac offer ar y cyd. Mae'r cronfeydd hyn wedi gweithio'n dda, ond mae angen adolygu problemau cyfredol, fel oedi mewn ysbytai, i sicrhau bod gwasanaethau'n bodloni gofynion newydd. Mae trafodaethau’n parhau ynghylch trefniadau cronfeydd cyfunol newydd posib i wella cydweithio.

 

Holodd yr aelodau am ofal a chymorth diwedd oes yn y gymuned.

 

Cadarnhaodd Pennaeth y Gwasanaethau i Oedolion fod nyrsio ardal a Macmillan yn darparu cefnogaeth a bod pob cartref gofal preswyl wedi'i hyfforddi mewn gofal diwedd oes. Os oes angen unrhyw fanylion pellach, gellid darparu hyn mewn cyfarfod yn y dyfodol.

 

Gofynnodd yr aelodau a oedd yn bosib adrodd ar unrhyw fesurau perfformiad yn y dyfodol fel ffigurau yn ogystal â chanrannau. Gofynnodd yr aelodau am ddadansoddiad o gyllid y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol.

 

Cadarnhaodd swyddogion fod y canrannau a ddarparwyd yn yr adroddiad yn seiliedig ar ymatebion gan ddefnyddwyr gwasanaeth. Roedd casglu data cyflawn yn her gan nad yw pawb yn rhoi adborth. Mae ymatebion gan y sector statudol yn is na'r trydydd sector, sy'n cael sylw ar hyn o bryd. Mae'r cyflwyniad data yn dilyn mesurau cronfeydd buddsoddi cenedlaethol a rhanbarthol er mwyn sicrhau cysondeb ledled Cymru. Mae dadansoddiadau mwy manwl o brosiectau a chyllid ar gael os oes angen; mae'r wefan yn rhestru prosiectau sydd heb nodi eu symiau ariannu.

 

Gofynnodd yr aelodau am fanylion pellach ynghylch y risgiau sylweddol mewn perthynas â'r cynlluniau ariannu presennol a grybwyllir ar dudalen 5 o'r adroddiad. Holodd yr aelodau hefyd am y trefniadau craffu ar gyfer y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol a gofynnodd am ddadansoddiad o'r manylion ariannol i'w ddarparu i'r aelodau.

 

Cadarnhaodd swyddogion fod yr ansicrwydd ynghylch cyllid yn y dyfodol yn risg sylweddol. Roedd grantiau cyfradd safonol yn risg gan fod yr arian a dderbynnir yn statig ac wrth i gyllidebau a chostau gynyddu, gall gwasanaethau ostwng. Mae darn manwl o waith yn mynd rhagddo i sefydlu'r effaith ar draws y trydydd sector ar ddarparu gwasanaethau.

 

Cadarnhaodd swyddogion y gellid rhannu dadansoddiad o'r cyllid â'r pwyllgor.

 

O ran trefniadau llywodraethu, mae'r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol yn atebol i'r tri sefydliad statudol.

 

Cynghorodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol, Iechyd a Thai’r aelodau y byddai unrhyw benderfyniadau polisi a oedd yn ymwneud â’r cyngor hwn yn cael eu cyflwyno i’r Cabinet i wneud penderfyniad arnynt a byddai gan y pwyllgor craffu’r cyfle i gyflwyno adroddiad er mwyn craffu arno. Yn ogystal, gall y pwyllgor alw ar feysydd eraill o'r gwaith rhanbarthol sy'n cael ei wneud, a gellid gwahodd partneriaid o Iechyd, y Trydydd Sector a Chyngor Abertawe i ateb cwestiynau aelodau.

 

Yn dilyn craffu, nododd y pwyllgor yr adroddiad.

Dyddiad cyhoeddi: 16/06/2025

Dyddiad y penderfyniad: 08/04/2025

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 08/04/2025 - Pwyllgor Craffu'r Gwasanaethau Cymdeithasol, Tai a Diogelwch Cymunedol

Dogfennau Cefnogol: