Statws: Recommendations Approved
Is AllweddolPenderfyniad?: Na
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na
Tynnodd aelodau sylw at y ffaith bod y gwaith a ddewiswyd ar
gyfer rhaglen gwaith Priffyrdd yn wahanol i'r awgrymiadau a wnaed gan aelodau
yn eu cymorthfeydd aelodau. Tynnwyd sylw hefyd at y ffaith nad oedd yr
adroddiad yn darparu unrhyw esboniad o'r sail resymegol y tu ôl i'r
penderfyniadau i beidio â symud ymlaen ag awgrymiadau'r aelodau.
Esboniodd swyddogion fod y gyllideb wedi aros yn sefydlog am
y 10 mlynedd diwethaf ar wahân i unrhyw grantiau ychwanegol gan LlC. Mae
swyddogion yn blaenoriaethu ar sail cyflwr a risgiau i'r awdurdod yn hytrach na
chyflawni rhestr ddymuniadau.
Dywedwyd wrth yr aelodau fod swyddogion yn cynnal arolygon
mawr i asesu'r rhwydwaith, sy'n wynebu problemau sylweddol oherwydd diffyg
buddsoddiad dros amser. Os bydd awgrymiadau aelodau'n cyd-fynd â'r anghenion yn
seiliedig ar risg a chyflwr y ffyrdd, yna gellir cynnwys yr awgrymiadau hynny.
Mae'n rhaid i swyddogion fod yn fwy arloesol a rhoddodd
aelodau'r enghraifft o bilen yn cael ei defnyddio ar Heol Depot yng Nghwmafan i
leihau costau.
Dywedwyd wrth aelodau fod y chwyddiant wedi lleihau
pŵer prynu'r cyngor 30-40%, sy'n golygu bod y gwaith y gall swyddogion ei
wneud hefyd yn lleihau 30-40%. Esboniodd swyddogion er mwyn gwella safon y
briffordd, mae angen buddsoddiad untro gwerth £20 miliwn a buddsoddiad
blynyddol o £3 miliwn ar gyfer gwaith cynnal a chadw.
Mae swyddogion yn deall dymuniadau'r gymuned, ond mae
technegwyr a pheirianwyr yn llunio asesiadau'n seiliedig ar arolygon cyflwr,
sy'n ystyried ffactorau amrywiol fel gwrthsefyll sgidio a diffygion diogelwch.
Mae nifer o flaenoriaethau a dim digon o arian.
Dywedwyd wrth yr aelodau fod y penderfyniadau'n seiliedig ar
arolygon technegol, nid gwleidyddiaeth. Yn hanesyddol, roedd cyfleoedd i
brosiectau bach lleol, ond erbyn hyn mae angen i'r holl arian gael ei
ddefnyddio i ymdrin â risgiau. Dyma pam mae amrywiaeth o ran faint o arian sy'n
cael ei wario ym mhob ward.
Roedd aelodau'n hapus i glywed y sail resymegol y tu ôl i'r
gwaith a ddewiswyd i'w gwblhau yn dilyn y cymorthfeydd.
Esboniodd swyddogion os nad yw'r cyngor yn gwario arian yn
synhwyrol, bydd yr ôl-groniad o £20 miliwn yn parhau i dyfu wrth i ffyrdd
waethygu. Byddai angen gwario £20 miliwn i sicrhau bod ffyrdd mewn cyflwr
rhesymol a byddai angen £3 miliwn y flwyddyn ar gyfer gwaith cynnal a chadw.
Gall oedi mewn buddsoddiadau arwain at y posibilrwydd o gostau'n cynyddu o
flwyddyn i flwyddyn.
Mae swyddogion yn ceisio sicrhau bod yr arian yn mynd mor
bell â phosib gan ddefnyddio technegau fel microwynebu i sicrhau ansawdd
ffyrdd. Mae swyddogion hefyd yn selio ffyrdd i'w hamddiffyn rhag glaw a rhew
sy'n ymestyn bywyd y ffordd.
Dywedodd aelodau fod angen gwaith helaeth ar rai ffyrdd
oherwydd gwaith adeiladu cychwynnol gwael ac maent hefyd yn dod ar draws
problemau fel tar glo ac mae hynny'n fwy drud i'w symud na chostau ailosod y
ffordd. Mae swyddogion yn ceisio gwneud y mwyaf o'r gyllideb wrth fynd i'r
afael â heriau amrywiol yn effeithiol.
Tynnodd Michael Roberts, Pennaeth Gofal Strydoedd, sylw at y
mathau gwahanol o anghenion a dymuniadau ac esboniodd fod angen i swyddogion
ganolbwyntio ar anghenion hanfodol erbyn hyn oherwydd cynnydd mewn costau a
chyllidebau statig. Nodwyd yn y gorffennol mae aelodau wedi cynnal cymorthfeydd
i flaenoriaethu eu prif bryderon, ond nawr mae'n rhaid mynd i'r afael â
phroblemau hollbwysig. Nid yw llawer o'r atgyweiriadau hanfodol, fel mesurau
gwrthsefyll sgidio ar gylchfannau, yn weladwy i'r cyhoedd ond maent yn atal
damweiniau.
Mae cryfhau pontydd a chwlferi hefyd yn hanfodol, hyd yn oed
os nad yw'r newidiadau hyn yn amlwg. Mae swyddogion yn blaenoriaethu diogelwch
a rheoli risgiau dros welliannau gweladwy.
Mae'r Cadeirydd yn cydnabod bod yr aelodau'n gwerthfawrogi
esboniadau, ond pwysleisiodd fod Aelodau am ddeall pam y mae cynlluniau penodol
a awgrymwyd gan aelodau mewn cymorthfeydd yn cael eu cynnwys neu'u heithrio, ac
mae hyn yn eu helpu i graffu ar y broses flaenoriaethu.
Teimlodd fod adborth yn hanfodol gan fod aelodau'n trafod
blaenoriaethau yn ystod cymorthfeydd ond nad oedd ganddynt fewnwelediad i'r
sail resymegol y tu ôl i benderfyniadau. Mae angen iddynt wybod a yw cynlluniau
wedi'u heithrio oherwydd diffyg angen neu gyllid.
Dywedodd y Cadeirydd y dylid rhoi gwybod i aelodau am reoli
risgiau'n gyffredinol a pha flaenoriaethau sy'n cael eu colli oherwydd
cyfyngiadau'r gyllideb. Mae'r ddealltwriaeth ehangach hon yn eu helpu i ddeall
cwmpas llawn y rhaglen a'r risgiau sy'n gysylltiedig a'r risgiau y mae'r cyngor
yn eu hwynebu. Teimlodd y dylai adroddiadau gynnwys yr wybodaeth hon.
Esboniodd Martin Brumby fod cymorthfeydd aelodau’n rhoi
cyfle i aelodau dynnu sylw at eu blaenoriaethau, ac mae swyddogion yn ymdrechu
i fynd i'r afael â nhw. Fodd bynnag, mae gwerthuso pob awgrym yn drylwyr yn
defnyddio llawer o adnoddau ac yn aml ni fydd yn ymarferol a bydd yn atal staff
yr adran traffig rhag gwneud tasgau eraill. Gan ystyried adnoddau cyfyngedig a
chyllideb gyfyngedig o £344,000, mae swyddogion yn blaenoriaethu materion
diogelwch ar y ffyrdd yn gyntaf, ac yna pryderon eraill fel parcio preswylwyr.
Maent yn ymrwymedig i gyflawni rhaglenni o fewn y flwyddyn i sicrhau cyllid a
chynhyrchu refeniw i'r cyngor trwy ffïoedd.
Esboniodd fod y cyfarfod craffu'n gyfle i swyddogion roi
adborth ar eu gwaith a'u penderfyniadau.
Nododd y Cadeirydd er bod y sail resymegol dros newidiadau’n
ymwneud â gwneud pethau'n fwy tryloyw, mae llawer o bethau'n parhau i ddigwydd
yn y cefndir. Teimlodd y Cadeirydd os yw swyddogion yn asesu blaenoriaethau
aelodau yn erbyn data, dylid sicrhau bod y broses hon ar gael. Dywedodd y
gellid trafod hyn ymhellach y tu allan i'r cyfarfod.
Dywedodd Michael Roberts y byddai creu adroddiad cynhwysfawr
sy'n cynnwys bob mater ym mhob ward yn ddogfen fawr iawn, yn hytrach awgrymodd
y gallai swyddogion drefnu sesiynau adborth ar gyfer aelodau unigol, a allai
fod yn fwy ymarferol. Gellid trafod hyn ymhellach â'r swyddogion craffu i ddod o hyd i'r ateb
gorau.
Gofynnodd yr aelodau am werth y cymorthfeydd os nad yw
awgrymiadau aelodau'n cael eu rhoi ar waith oherwydd cyfyngiadau ariannol.
Maent yn deall yr angen i reoli risgiau ond maent yn teimlo bod y broses yn
creu gwaith diangen os nad yw mewnbwn aelodau'n cael ei ystyried.
Gofynnodd aelodau a ddylid oedi'r cymorthfeydd wrth i
swyddogion ganolbwyntio'n llawn ar reoli risgiau yn hytrach na mynd i'r afael â
phryderon aelodau ac yna ailddechrau'r cymorthfeydd unwaith y bydd sefyllfa'r
gyllideb yn gwella yn y dyfodol.
Roedd Dave Griffiths, Pennaeth Peirianneg, yn cytuno'n
rhannol ag aelodau ynghylch cymorthfeydd aelodau, ond pwysleisiodd yr angen i
ddeall aelodau a'u pryderon am y gymuned sy'n gysylltiedig â'r rhwydwaith
priffyrdd. Dywedodd na fyddai asesu pob eitem unigol yn ymarferol oherwydd
cyfyngiadau amser.
Dywedwyd wrth yr aelodau fod heriau ariannol yn golygu bod
yn rhaid i'r cyngor asesu pob prosiect ar draws pob cyfarwyddiaeth, yn
seiliedig ar ofynion statudol a safonau diogelwch, maent yn canolbwyntio ar
fodloni canllawiau. Maent yn canolbwyntio ar fodloni canllawiau a gofynion
statudol megis mesurau diogelwch hanfodol fel arwynebau gwrthsefyll sgidio a
mannau lle mae nifer o ddamweiniau'n digwydd.
Mae'r cyngor yn wynebu ôl-groniad sylweddol o waith ac mae'n
rhaid amddiffyn ei sefyllfa er mwyn osgoi canlyniadau difrifol damweiniau. Er
enghraifft, mae angen gwaith atgyweirio brys ar Heilbron Way er mwyn atal
trychinebau posib. Dywedwyd wrth aelodau, er nad oedd digono arian ar gael ar
gyfer y gwaith hwn, eleni gellid defnyddio Menter Benthyca Llywodraeth Leol ar
gyfer rhywfaint o waith.
Dywedwyd wrth aelodau fod esgeulustod o ran gwaith
atgyweirio, fel rhwystrau ar bontydd sydd wedi erydu, yn gallu arwain at
ganlyniadau difrifol, gan gynnwys damweiniau a materion cyfreithiol fel
dynladdiad corfforaethol neu gyhuddiadau o esgeulustod difrifol yn erbyn y
cyngor/swyddogion. Roedd swyddogion yn canolbwyntio ar ddiogelwch i atal
marwolaethau a digwyddiadau ar y ffordd, sy'n heriol ond yn hanfodol ac mae gan
yr awdurdod hanes da o leihau hynny.
Mae swyddogion yn nodi dymuniadau'r gymuned, ond mae'r
cyngor yn blaenoriaethu diogelwch i sicrhau amgylchedd diogel. Maent yn
defnyddio ymagwedd sy'n seiliedig ar risg i ddyrannu adnoddau'n effeithiol.
Dywedwyd wrth aelodau fod deall pryderon cymunedol yn
hanfodol, a gall grantiau allanol helpu i ariannu'r cynlluniau hyn. Mae'r
cyngor yn ceisio cydbwyso blaenoriaethau diogelwch ag anghenion cymunedol, er
gwaethaf cyfyngiadau ar adnoddau.
Esboniodd Dave Griffiths fod dyraniad sylweddol yn cael ei
ystyried a allai fod ar gael i aelodau ei ddefnyddio i wneud gwahaniaeth yn eu
cymunedau o ran gofal strydoedd.
Tynnodd yr aelodau sylw at y gwahaniaeth mewn cyllid ar
draws y wardiau, wrth gydnabod yr angen i flaenoriaethu gwaith pwysig,
esboniodd ei fod yn heriol esbonio wrth breswylwyr pam y mae'r ward yn derbyn
llai o arian o'i gymharu â wardiau eraill. Mae preswylwyr yn teimlo bod
problemau lleol yr un mor bwysig â phrosiectau mwy mewn mannau eraill ac maent
yn dadlau eu bod yn talu'r un dreth gyngor â wardiau eraill ac maent yn disgwyl
i'r cyngor fynd i'r afael â'u pryderon. Roedd aelodau'n teimlo bod cydbwyso'r
blaenoriaethau hyn yn anodd ond yn angenrheidiol i sicrhau tegwch ac i fynd i'r
afael ag anghenion lleol neu brosiectau llai.
Mynegodd yr aelodau yr anhawster wrth esbonio i breswylwyr
pam nad yw ceisiadau penodol yn eu ward yn bosib er iddynt wthio am y
gwelliannau hynny.
Awgrymodd aelodau gynnwys manylion y cynlluniau y gofynnwyd
amdanynt mewn adroddiadau yn y dyfodol i ddangos eu bod yn cael eu hystyried.
Byddai'r tryloywder hwn yn eu sicrhau bod eu pryderon yn cael eu cydnabod.
Nododd aelodau mewn rhai wardiau mae prosiectau bach fel
gwelliannau i ddraeniau wedi cael eu cwblhau a chynhigiwyd ychwanegu taenlen o
gyflawniadau a chostau i helpu i esbonio gwariant i breswylwyr. Teimlai aelodau
y byddai hyn yn hwyluso sgyrsiau gwell am ymdrechion a gwariant y cyngor mewn
wardiau ac yn helpu i ddangos faint o waith sydd wedi'i wneud yn y gymuned.
Ychwanegodd y Cadeirydd fod teithio llesol wedi'i drafod yn
ystod cyfarfod y pwyllgor yn y gorffennol mewn perthynas â phethau y dylai fod
wedi'u hariannu gan arian grant, ond o safbwynt y cyhoedd mae'r gwaith yn mynd
rhagddo ar y briffordd e.e. cyrbau isel, croesfannau a chyllid Llwybrau Diogel
i Ysgolion. Roedd y Cadeirydd o'r farn bod archwilio'r holl wariant ar y
briffordd mewn modd holistig yn helpu aelodau i ddeall gweithgareddau'r cyngor
yn well.
Roedd y Cadeirydd yn cydnabod bod gwaith gwahanol yng
nghylch gwaith adrannau gwahanol ar hyn o bryd sy'n ei wneud yn fwy heriol i
gael un farn unigol, ond teimlwyd bod gwybod am yr hyn sy'n digwydd diolch i
gyllid arall, neu am waith sydd wedi'i wneud yng nghanol y flwyddyn nad yw ar y
rhaglen neu'n cael ei ddangos yn yr adroddiad hwn, yn helpu aelodau i esbonio i
breswylwyr bod gwaith yn digwydd yn eu wardiau.
Ymddiheurodd swyddogion am beidio ag anfon cofnodion
cymorthfeydd aelodau at yr aelodau. Mewn perthynas ag adroddiad mwy
cynhwysfawr, dywedwyd wrth aelodau fod rhai adroddiadau mor fawr ei fod yn
anodd i bobl ddeall yr holl fanylion. Esboniodd swyddogion fod y sail resymegol
y tu ôl i benderfyniadau wedi'i esbonio yn ystod cymorthfeydd aelodau. Roedd
swyddogion yn hoff o'r awgrym i adolygu a deall yr hyn a wnaed yn y flwyddyn
flaenorol, nid canolbwyntio ar y rhaglen gyfalaf yn unig.
Ar gyfer cyllidebau refeniw, dywedwyd wrth aelodau am y
gweithgareddau parhaus fel atgyweirio tyllau yn y ffordd a chynlluniau draenio
bach a'r heriau sy'n gysylltiedig â sicrhau bod yr wybodaeth hon ar gael yn
rhwydd i aelodau'r ward.
Teimlodd aelodau y dylai proses gwblhau a chymeradwyo glir
fod ar waith i sicrhau rheoli swyddi'n effeithlon. Gofynnodd aelodau am daenlen syml sy’n
rhestru'r gwaith a wnaed ym mhob ward yn hytrach nag adroddiad helaeth.
Awgrymodd aelodau hefyd ddefnyddio deallusrwydd artiffisial i helpu i reoli a
chyflwyno'r wybodaeth yn fwy effeithiol.
Roedd yr aelodau'n dymuno gallu darparu gwybodaeth dryloyw a
hygyrch i'w preswylwyr am weithgareddau'r cyngor.
Esboniodd swyddogion fod y rhaglen gyfalaf yn cael ei
gyflwyno fel a gynlluniwyd, fodd bynnag, efallai y bydd angen gwneud addasiadau
os bydd problemau'n codi neu os yw tasgau'n cael eu cwblhau'n fwy effeithlon
na'r disgwyl.
Mae'r timau refeniw yn ymdrin â thasgau gwahanol, fel
draenio a'r peiriant 'Pothole Pro'. Dywedodd Steve Owen ei fod yn goruchwylio'r
tîm draenio a'r tîm 'Pothole Pro'. Teimlodd fod amcangyfrif cost yr
atgyweiriadau a wnaed gan ddefnyddio'r 'Pothole Pro' yn heriol oherwydd
amrywioldeb mewn costau deunyddiau ac anghenion newidiol. Esboniodd fod cyllid
ychwanegol ar gael ar gyfer y broses atgyweirio tyllau yn y ffordd.
Dywedwyd wrth aelodau fod anghenion newidiol ym mhob
lleoliad yn golygu ei fod yn anodd darparu amcangyfrifon cywir o’r gost. Mae'n
rhaid i dimau fod yn hyblyg i ymateb i newidiadau a blaenoriaethau annisgwyl,
sy'n effeithio ar gywirdeb cynllunio ac adrodd.
Cadarnhaodd Michael Roberts y gallai swyddogion archwilio
offer deallusrwydd artiffisial i wella prosesau adrodd. Esboniodd gan nad yw
cofnodion manwl yn cael eu cadw ar gyfer pob twll, efallai y bydd angen i
swyddogion amcangyfrif costau gan rannu cyfanswm cost y tîm â nifer y tyllau
sy'n cael eu hatgyweirio bob blwyddyn. Byddai darparu costau manwl gywir ar
gyfer pob twll yn y fforddsy'n cael ei atgyweirio'n golygu llawer o waith ac ni
fyddai hyn yn ddichonadwy.
Dywedodd aelodau fod system tyllau yn y ffordd newydd, sydd
wedi bod yn cael ei datblygu ers peth amser, bellach bron wedi'i chwblhau. Bydd
gan bob tîm dabled i gofnodi manylion fel lluniau o'r twll, amser ar y safle ac
oddi arno a'r deunyddiau a ddefnyddiwyd. Caiff yr holl wybodaeth ei chynhyrchu
gan gyfrifiadur, gan wella cywirdeb ac effeithlonrwydd. Gall goruchwylwyr anfon
timau yn seiliedig ar flaenoriaeth, gyda gwybodaeth yn mynd yn uniongyrchol i'r
unigolion yn y cerbyd. Bydd y system hon yn disodli'r defnydd o daflenni
dyddiol, gan symleiddio'r broses a sicrhau bod yr holl ddata'n cael ei
dychwelyd yn electronig.
Roedd aelodau'n deall bod adnoddau'n dynn ac roeddent yn
ceisio osgoi creu gwaith ychwanegol ar gyfer swyddogion a theimlwyd y dylai
cofnodi ac adrodd fod mor syml â phwyso botwm.
Dywedodd aelodau y gellid rhoi systemau cofnodi ar waith ar
gyfer tasgau'r cyngor gan nodi bod gan gerbydau gwastraff systemau i gofnodi
tasgau eisoes, a nodwyd y gellid defnyddio technoleg debyg ar gyfer meysydd
eraill.
Teimlodd swyddogion fod disgwyl i'r system newydd gyflwyno
manteision ac effeithlonrwydd sylweddol, gan ganiatáu atgyweirio tyllau yn y
ffordd mewn ffordd drefnus ac effeithlon.
Mae swyddogion yn ceisio ymdrin ag atgyweiriadau fesul
ardal, gan leihau amser teithio rhwng swyddi. Bydd y system hefyd yn helpu i
olrhain lleoliad y timau, gan wella ymatebion i argyfyngau. Mae cydnabyddiaeth
o'r ymdrechion parhaus i wella'r system, a'r heriau a wynebir.
Canmolodd yr aelodau dimau lleol am y gwaith da a wnaed yn y
wardiau.
Sicrhawyd y Cadeirydd fod symudiadau'r cyngor tuag at
ddefnyddio cronfa ddata i ddeall gweithgareddau'n helpu i reoli deunyddiau,
cyllidebau a gweithrediadau cyffredinol yn fwy effeithiol. Tynnodd sylw at y
gwahaniaeth rhwng adroddiadau hir y gofynnwyd amdanynt gan y pwyllgor a'r
rheini nas gofynnwyd amdanynt, gan nodi bod rhai adroddiadau hir yn hanfodol er
mwyn cael dealltwriaeth lawn ar adegau penodol.
Nododd y Cadeirydd nad oedd y rhaglen y penderfynwyd arni ar
ddechrau'r flwyddyn yn aml yn digwydd yn ôl y cynllun, a byddai adrodd yn ôl
i'r pwyllgor ar yr hyn a fwriadwyd ei gyflawni yn erbyn yr hyn a gyflawnwyd yn
ddefnyddiol. Pwysleisiodd bwysigrwydd deall anghenion sydd heb eu diwallu gan
gynnwys cynlluniau sy'n trosglwyddo i'r flwyddyn ariannol nesaf, a dylid adrodd
am hyn yn glir i'r aelodau.
Roedd y Cadeirydd yn cydnabod yr angen i fabwysiadu
cynlluniau'n seiliedig ar gynnydd gwirioneddol a blaenoriaethau newidiol, a
dylid adlewyrchu'r hyblygrwydd hwn yn yr adroddiadau.
Esboniodd Michael Roberts fod y gwahaniaethau yn y rhaglen
gyfalaf yn cael eu rheoli drwy grŵp llywio'r rhaglen gyfalaf ac yna'n cael
eu hadolygu gan dîm arweinyddiaeth strategol, y Cabinet neu'r cyngor gan
ddibynnu ar yr angen. Mae'r broses hon yn un ffurfiol sy'n cynnwys adrodd.
Mae swyddogion yn ceisio cydbwyso'r pethau cadarnhaol a’r
rhai negyddol trwy gydol y flwyddyn. Er bod y pethau sy'n cael eu trosglwyddo'n
cael eu nodi mewn adroddiadau cyllid eraill, efallai byddai’n fuddiol gweld
popeth mewn un lle. Byddai swyddogion yn archwilio hyn ac yn trafod â
swyddogion craffu ynghylch sut i gyfuno adroddiadau, yn enwedig ers iddynt allu
adrodd am raglenni teithio llesol a pheirianneg i gymunedau gwahanol o dan y
model craffu newydd a fydd ar waith yn y flwyddyn ddinesig nesaf.
Cytunodd y Cadeirydd fod angen ailedrych ar y mater.
Awgrymodd y Cadeirydd y gallai grynhoi syniadau a
thrafodaethau'r pwyllgor mewn llythyr i egluro awgrymiadau ac ymarferoldeb.
Yna, gellid trafod y grynodeb y tu allan i'r pwyllgor i wella'r adroddiad ar
gyfer y flwyddyn nesaf, ni waeth pwy yw'r Cadeirydd yn y trefniadau craffu
newydd.
Mynegodd Scott Jones, Aelod y Cabinet dros Strydlun, ei siom
pan newidiodd y polisi newydd yn 2019 o restr ddymuniadau i raglen sy'n
seiliedig ar risg a reolir gan swyddogion. Teimlodd y dylai cymorthfeydd
aelodau barhau a phwysleisiodd eu pwysigrwydd ar gyfer ailwynebu ffyrdd ac ar
gyfer derbyn adborth adeiladol ar wasanaethau cymdogaethau i sicrhau bod
cymunedau'n lân ac yn daclus.
Roedd Aelod y Cabinet yn cydnabod bod gwasanaethau
cymdogaethau'n rheoli cyllidebau amrywiol, nid yn unig ar gyfer ailwynebu
ffyrdd ond hefyd ar gyfer anghenion eraill fel biniau graean ac atgyweiriadau
tyllau yn y ffordd dros dro. Teimlodd, o ganlyniad i hyn, fod trafodaethau mewn
cymorthfeydd aelodau'n ymdrin ag amrywiaeth eang o bynciau ac anghenion, gan
adlewyrchu agweddau amrywiol ar wasanaethau cymdogaethau.
Roedd Aelod y Cabinet yn cydnabod y diffyg buddsoddiad dros
y degawd diwethaf a phwysleisiodd yr angen i gefnogi cyngor proffesiynol
swyddogion yn seiliedig ar risg. Rhoddwyd sicrwydd nad oedd penderfyniadau'n
cael eu dylanwadu gan wardiau na gwleidyddiaeth ac awgrymodd gyfarfod neu
seminar ar wahân i ddeall ardaloedd â risgiau ffyrdd yn well. Nid yw'n rhagweld
y bydd y cyllid o £20 miliwn a'r buddsoddiad blynyddol o £3miliwn yn dod yn
fuan. Pwysleisiodd y cyfrifoldeb ar y cyd i gadw pobl yn ddiogel ac amddiffyn y
cyngor.
Teimlodd y Cadeirydd fod cymorthfeydd aelodau'n bwysig ac ni
ddylent gael gwared arnynt oherwydd mae aelodau'n helpu i dynnu sylw at
broblemau nad yw peiriannau bob amser yn eu gweld. Nododd fod grantiau ar gael
ar gyfer problemau fel cyrbau isel neu bryderon diogelwch, a gellid gwneud cais
amdanynt hyd yn oed os ydynt yn cael eu cynnwys yn y rhaglen gyfalaf.
Teimlodd y Cadeirydd mai rheoli risg oedd prif bryder y
pwyllgor craffu. Pwysleisiodd bwysigrwydd aelodau'n gweld proses swyddogion ar
gyfer gwneud penderfyniad fel eu bod yn deall y sail resymegol y tu ôl i
benderfyniadau ac asesu lefel y risg dan sylw. Er bod ymddiried ym marn
broffesiynol swyddogion yn hanfodol, mae hefyd angen i aelodau weld, a bod yn
sicr, bod swyddogion yn rheoli risgiau mewn modd priodol. Mae'r gwelededd hwn
yn hanfodol er mwyn i aelodau gyflawni eu cyfrifoldeb o ran goruchwylio rheoli
risgiau'n effeithiol.
Roedd Martin Brumby'n cefnogi sylwadau Aelod y Cabinet a
phwysleisiodd fod cymorthfeydd yn gwasanaethu dau brif ddiben: rhoi gwybod i
aelodau am bryderon y ward a chyfathrebu problemau'r cyhoedd. Dywedodd fod
cymorthfeydd aelodau'n caniatáu i aelodau roi gwybod i'w preswylwyr fod
pryderon wedi cael eu codi, hyd yn oed os nad ydynt yn mynd i'r afael â nhw ar
unwaith oherwydd dadansoddiad risg, costau, cyfyngiadau'r gyllideb, a
blaenoriaethau eraill. Pwysleisiodd Martin Brumby bwysigrwydd barhau â chymorthfeydd
er tryloywder ac atebolrwydd, gan eu bod wedi gweithio'n dda dros y 10 mlynedd
diwethaf. Mae'r broses hon yn helpu swyddogion i ddeall pam nad oeddent yn mynd
i'r afael â phroblemau penodol.
Gofynnodd aelodau sut y mae prosiectau'n cael eu hariannu yn
ystod cyfnod arolwg pan nad yw costau'n hysbys. Gofynnwyd hefyd a yw arian yn
cael ei drosglwyddo i'r flwyddyn ariannol newydd os yw'r arolwg wedi'i gwblhau
ond nad yw'r gwaith wedi dechrau.
Tynnodd aelodau sylw at brosiect parhaus goleuadau traffig
The Lodge yn Llansawel sydd wedi gweld llawer o ddamweiniau ac achosion cael a
chael ac mae wedi cael ei ohirio ers blynyddoedd. Roedd aelodau am wybod faint
o amser fydd yn ei gymryd i'w gwblhau a sut y caiff arian ei ddyrannu ar gyfer
prosiectau o'r fath.
Esboniodd Martin Brumby y bydd gwaith yn y rhaglen gyfalaf
yn cael ei wneud, hyd yn oed os ydynt yn cymryd mwy o amser na'r disgwyl ac yn
cael eu trosglwyddo i'r flwyddyn nesaf. Caiff gwaith newydd hefyd ei brosesu'n
flynyddol, ac nid yw cynlluniau'n cael eu colli oni bai na ellir eu trosglwyddo
i'r flwyddyn nesaf o ganlyniad i gyfyngiadau o ran safonau, data neu gyllideb.
O ran goleuadau traffig The Lodge, darperir adroddiad a
thrafodaeth â swyddogion. Rydym wedi cyflogi 'Swansea Telematics' ond mae'r
prosiect wedi cael ei ohirio oherwydd gwaith grant arall sydd ganddynt ac
adnoddau cyfyngedig. Gyda nifer cyfyngedig o weithwyr proffesiynol ar gael,
mae'r cynnydd yn araf, ond bydd y gwaith yn cael ei gwblhau.
Nododd yr Aelodau heriau trosglwyddo arian rhwng blynyddoedd
ariannol pan nad yw costau'r prosiect yn hysbys yn ystod y cam cynnal arolwg.
Cwestiynwyd sut y mae swyddogion yn gwybod faint o'r gyllideb y dylid ei
neilltuo ar gyfer prosiectau o'r fath, gan ddefnyddio'r enghraifft o'u ward i
esbonio'r pryder.
Esboniodd Martin Brumby fod angen gwaith cynllunio gofalus a
hyblygrwydd wrth reoli rhaglen gwaith cyfalaf gyda chyllideb sefydlog o
£344,000 ar gyfer 20 cynllun. Er bod y gyllideb yn cael ei ddyrannu ar y
dechrau, mae'n heriol darparu ffigur sefydlog heb ddyluniadau manwl.
Mae'n rhaid i swyddogion reoli'r cynlluniau hyn yn fewnol,
gan ddibynnu ar eu proffesiynoldeb a'u didueddrwydd. Gall cyllidebau newid, ac
efallai bydd angen i rai cynlluniau gael eu trosglwyddo i'r flwyddyn ariannol
nesaf.
Rhoddwyd yr enghraifft y gallai cynllun gwerth £10,000 ddod
yn gynllun £30,000, gan effeithio ar brosiectau arfaethedig eraill. Mae'r
broses gydbwyso hon yn gymhleth, gan nad yw dyluniadau manwl bob amser ar gael
cyn iddynt gael eu cymeradwyo. Dywedwyd wrth aelodau fod prosiectau'n cael eu
datblygu ar y cyd ag aelodau, a gwneir newidiadau'n seiliedig ar gynnydd go
iawn a blaenoriaethau newidiol.
Nododd Martin Brumby fod prosiect goleuadau traffig The
Lodge yn enghraifft glasurol o gynllun yn cael ei drosglwyddo. Er ein bod ni
wedi gwario miloedd dros bum mlynedd, ni fu unrhyw ganlyniadau go iawn hyd yma.
Teimlodd aelodau fod gwario £25,000 ar astudiaeth
ddichonoldeb ar gyfer croesfan i gerddwyr yn Ward Aberafan, yn enwedig o
ystyried y farwolaeth ddiweddar ac achosion cael a chael, yn swm sylweddol.
Teimlodd aelodau efallai y byddai'n fwy effeithlon dyrannu'r arian hwnnw'n
uniongyrchol tuag at roi'r groesfan i gerddwyr ar waith.
Esboniodd Martin Brumby fod yn rhaid i swyddogion godi tâl
am eu hamser, sy'n effeithio ar gostau'r cynllun. Mae swyddogion yn asesu
cofnodion o ddamweiniau, gwelededd a safonau diogelwch ac yn casglu data. Yn
dilyn y farwolaeth, fyddant yn edrych ar yr hyn y gellir ei wneud ond bydd hyn
yn cymryd amser. Daw cyllid o'r rhaglen gyfalaf neu gronfeydd unigol wedi'u
capio sy'n cael eu defnyddio ar gyfer pethau eraill.
Esboniodd Martin Brumby dyma pam y dyrannwyd yr arian ar
gyfer y prosiect hwn, er mwyn rhoi cyfle i swyddogion edrych arno gyda'r
manylder priodol yn dilyn pryderon a'r farwolaeth a ddigwyddodd y llynedd.
Efallai bydd arian ar gael i ddechrau ar y gwaith
rhagarweiniol. Mae'r cynllun hwn yn gofyn am sylw sylweddol gan swyddogion a
thrafodaethau ag aelodau.
Gofynnodd aelodau a yw'r astudiaeth ddichonoldeb ar gyfer y
groesfan yn cynnwys penwythnosau a nosweithiau, o ystyried amserlen brysur yr
Eglwys gyda digwyddiadau y tu allan i oriau safonol.
Cytunodd swyddogion i'r cais hwnnw a dywedwyd eu bod yn
ceisio darparu'r canlyniad gorau a'r gwerth gorau am arian trwy asesiadau
proffesiynol ac ymagweddau sy'n seiliedig ar risg. Mae swyddogion yn ceisio
defnyddio arian yn effeithiol.
Teimlodd y Cadeirydd ei fod yn bwysig gofyn sut y mae'r
arian hwnnw'n symud o gwmpas oherwydd mae'n ddyraniad o'r gyllideb gyfalaf i
dîm Martin Brumby er mwyn iddynt ymgymryd â'r gwaith hwnnw gan fod ychydig o
bryder bod y cyngor yn talu rhywun allanol i wneud yr astudiaeth honno ac roedd
yn hapus bod y sefyllfa wedi cael ei esbonio.
Gofynnodd aelodau am brosiect pont Glyncorrwg. Dywedodd
swyddogion ei fod yn gynllun mawr ac nad yw'n rhan o'r rhaglen cynnal a chadw.
Mae tîm Dave Griffiths wedi derbyn arian grant ar ei gyfer a gall swyddogion
rannu'r wybodaeth honno ag aelodau. Ymdrinnir â chynllun Glyncorrwg drwy
geisiadau drwy Lywodraeth Cymru. Mae'n hanfodol i'r lleoliad o ran mynediad yn
y gymuned.
Dywedwyd wrth aelodau fod yr wybodaeth yn cyrraedd aelodau
mewn adroddiad arall ar ochr arall y rhaglen gyfalaf, sef ceisiadau grant sydd
fel arfer yn cyrraedd gan dîm David Griffiths. Mae hefyd Gronfa Trafnidiaeth
Leol a fydd yn yr adroddiad sydd â £730,000 ar gyfer cam nesaf y gwaith hwnnw.
Teimlodd y Cadeirydd fod y prosiect hwn yn trafod y broblem
o aelodau'n ennill dealltwriaeth o'r risg a sut y mae'r cyngor yn ymdrin â risg
gan nodi bod y prosiect yn arddangos risg enfawr o ran y gymuned yn colli
mynediad a mynd i'r afael â chyflwr strwythurau. Nid yw aelodau'n gweld
cyfanswm yr holl risgiau hwnnw.
Dywedodd aelodau fod tair damwain wedi bod ar gyffordd yr
A4107, a gofynnwyd i ni osod drych ar y gyffordd honno i atal damweiniau.
Dywedodd yr aelodau fod y cais hwn wedi'i wrthod oherwydd y gwaith parhaus.
Nododd y Cadeirydd fod swyddogion wedi ymateb gyda'r sail
resymegol ynghylch pam nad yw'r gwaith wedi cael ei ddatblygu y tu allan i'r
cyfarfod ac awgrymodd y Cadeirydd y gellid trafod y mater â swyddogion unwaith
eto ac efallai siarad ag Aelod y Cabinet hefyd os nad ydynt yn fodlon â sut yr
ymdrinnir â'r mater.
Rhoddodd Michael Roberts grynodeb o sefyllfa gyffredinol y
priffyrdd gan esbonio bod popeth bellach yn ddrud iawn. Mae chwyddiant, yn
ogystal â chost deunyddiau, wedi cynyddu o ganlyniad i broblemau fel y rhyfel
yn Wcráin, ac rydym yn derbyn yr un faint o arian i'w wario ar y ffyrdd â'r hyn
a ddyrannwyd 10 mlynedd yn ôl.
Nododd Steve Owen, Rheolwr Priffyrdd a Draeniad, yn y
gorffennol roeddent yn gallu cwblhau tabl cyfan o waith, ond erbyn hyn maent yn
lwcus os gallant gwblhau hanner ohonynt.
Pwysleisiodd y Cadeirydd bwysigrwydd ddeall risgiau ac
anghenion nas diwallwyd i lywio penderfyniadau ynghylch dyrannu cyllid cyfalaf.
Teimlodd fod nodi a deall risgiau ac anghenion nas diwallwyd yn hanfodol wrth
wneud penderfyniadau gwybodus. Nododd fod gan y cyngor yr awdurdod i ddosbarthu
cyllid cyfalaf cyfyngedig i reoli risgiau amrywiol, gan gynnwys priffyrdd,
addysg a gwasanaethau cymdeithasol a bydd mwy o wybodaeth a dealltwriaeth o'r
risgiau'n helpu i sicrhau bod penderfyniadau cyllido'n rhai gwybodus.
Awgrymodd y Cadeirydd y gallai'r Cabinet benderfynu
ail-flaenoriaethu cyllid yn y dyfodol yn seiliedig ar risgiau ac anghenion a
aseswyd a theimlodd fod angen trafodaeth barhaus i fynd i'r afael â'r problemau
hyn a manteisio i'r eithaf ar yr adnoddau sydd ar gael.
Nododd David Griffiths y bydd pwyllgorau craffu newydd yn y
flwyddyn ddinesig newydd ac mae teithio llesol, masnachfreinio bysus a'r holl
brosiectau sy'n gysylltiedig â thrafnidiaeth ranbarthol a'r holl brosiectau
mawr a drafodwyd yn y cyfarfod heddiw yn debygol o gael eu hadrodd i bwyllgor
gwahanol. Nid oedd yn gwybod sut y bydd Cadeiryddion pwyllgorau craffu'n rheoli
hyn a theimlodd fod angen cael trafodaeth â swyddogion craffu.
Tynnodd swyddogion sylw at y ffaith y bydd yr holl
grantiau'n cael eu prosesu drwy'r Cyd-bwyllgor Corfforedig o 2026 ymlaen. Bydd
hyn yn cynnwys prosiectau teithio llesol, cynlluniau diogelwch ar y ffyrdd,
cronfeydd trafnidiaeth leol a phrosiectau mawr, sef cyfanswm o bron i 300 o
brosiectau rhanbarthol.
Dywedwyd wrth aelodau fod asesiadau ansoddol a meintiol yn
penderfynu sut y caiff cynlluniau yng Nghastell-nedd Port Talbot eu
blaenoriaethu. Mae'r broses hon yn dod yn fwy canolog, a theimlodd swyddogion
fod angen i aelodau sicrhau bod y cyngor yn derbyn ei gyfran deg o gyllid ac
mae'n hanfodol i'r Cadeirydd fonitro hyn yn agos mewn cyfarfodydd craffu i
gynrychioli buddiannau CNPT yn effeithiol. Bydd swyddogion hefyd yn eirioli
dros y rhanbarth, ond mae angen i aelodau fod yn wyliadwrus.
Cytunodd y Cadeirydd ei fod yn bwysig i aelodau nodi hyn a
dywedodd y bydd yn rhaid i bob yn ohonynt gadw llygad ar sut y mae'r prosesau
hyn yn cael eu datgelu.
Dywedodd y Cadeirydd fod y Cyd-bwyllgorau Corfforedig yn
eithaf cymhleth ac maent yn ychwanegu haen ychwanegol o gymhlethdod, ond mae'n
rhaid i aelodau weithio o fewn y system a'i deall cystal ag y gallant.
Yn dilyn craffu, cefnogwyd yr argymhelliad i gyflwyno'r eitem gerbron y Cabinet.
Dyddiad cyhoeddi: 07/07/2025
Dyddiad y penderfyniad: 04/04/2025
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 04/04/2025 - Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Amgylchedd, Adfywio a Cymdogaeth
Dogfennau Cefnogol: