Statws: Recommendations Approved
Is AllweddolPenderfyniad?: Na
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na
Rhoddwyd yr wybodaeth
ddiweddaraf i'r Aelodau am ddatblygiad y Strategaeth Cydraddoldeb, Amrywiaeth a
Chynhwysiant ar y Cyd a fydd yn llywio'r Cynllun Cydraddoldeb Strategol
Rhanbarthol.
Amlygwyd bod yr Aelodau wedi
derbyn fersiwn ddrafft o'r adroddiad hwn yng nghyfarfod diwethaf Cyd-bwyllgor
Corfforedig De-orllewin Cymru; ni fu unrhyw newidiadau sylweddol ers y cyfarfod
hwn, er bod mwy o fanylion wedi'u cynnwys yn y cynllun gweithredu. Rhoddwyd
gwybod i'r Aelodau fod y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu wedi craffu ar yr
adroddiad a'i gymeradwyo.
Roedd Prif Weithredwr
Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru wedi derbyn adborth ar y cynllun
drafft gan Swyddogion y Comisiynwyr Cydraddoldeb a Hawliau Dynol; er eu bod yn
fodlon ar y cynllun, gwnaethant ddarparu rhai argymhellion. Nodwyd mai'r prif
argymhelliad oedd cynnwys dyddiadau cyflawni targedau yn y cynllun gweithredu.
Eglurwyd y gallai'r Prif Weithredwr wneud y diwygiad hwn, mewn ymgynghoriad â'r
Cadeirydd, pe bai'r Aelodau'n fodlon ar hynny. Cadarnhawyd bod yr Aelodau'n
fodlon i'r Prif Weithredwr ychwanegu dyddiadau cyflawni targedau at y cynllun
gweithredu.
Llongyfarchodd y Pwyllgor
Swyddogion ar y gwaith a oedd wedi cael ei wneud i ddatblygu'r
strategaeth.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo'r Strategaeth Cydraddoldeb, Amrywiaeth a
Chynhwysiant ar y Cyd, er mwyn galluogi'r cynllun gweithredu i gael ei roi ar
waith, a datblygu'r Cynllun Cydraddoldeb Strategol Rhanbarthol.
Dyddiad cyhoeddi: 02/10/2024
Dyddiad y penderfyniad: 12/09/2024
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 12/09/2024 - Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru
Dogfennau Cefnogol: