Manylion y penderfyniad

Street Lighting Energy - Consultation Response

Statws: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: Na

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na

Penderfyniadau:

Penderfyniad:

 

Yn dilyn cynnig Pwyllgor Craffu Gwasanaethau'r Amgylchedd, Adfywio a Strydlun, a gynhaliwyd cyn y cyfarfod hwn, roedd yr Aelodau'n gefnogol o'r diwygiad i'r argymhellion canlynol, fel y nodir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd. Felly, cafodd yr argymhellion eu cymeradwyo fel a ganlyn:

 

Ar ôl rhoi sylw dyladwy i gam cyntaf yr Asesiad Effaith Integredig:

·       Nodi'r adborth o'r ymgynghoriad

·       Cymeradwyo pylu llusernau LED 25%

·       Cymeradwyo'r astudiaeth beilot o oleuadau rhan amser gyda'r nos, er mwyn cael dealltwriaeth well o effeithiau strategaethau arbed o'r fath a thrwy hynny alluogi gwneud penderfyniadau ar sail tystiolaeth yn y dyfodol, os ystyrir ei fod yn briodol. Cyn cynnal cynllun peilot o'r fath, cyflwynir adroddiad pellach i'r Aelodau sy'n rhoi manylion lleoliad daearyddol yr astudiaeth beilot arfaethedig, hyd yr astudiaeth beilot, a'r amseroedd pan fydd y goleuadau'n cael eu diffodd/cynnau, a chaiff y cynlluniau eu cymeradwyo gan Aelodau cyn y cynhelir unrhyw gynllun peilot. Yna caiff canlyniadau cynllun peilot eu hatgyfeirio at yr Aelodau i lywio unrhyw benderfyniadau yn y dyfodol, os ystyrir bod hyn yn briodol. Cynhelir ymgynghoriad fel rhan o'r astudiaeth beilot a bydd yn cynnwys asesiad o'r effeithiau ar fenywod a merched ifanc o ran trais, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Bydd canlyniadau'r ymgynghoriad hwnnw yn cael eu hadrodd i'r aelodau ar ôl cwblhau'r cynllun peilot a'r ymgynghoriad.

 

Rheswm dros y Penderfyniad:

 

Galluogi rhai arbedion i wrthbwyso'r cynnydd mawr mewn costau ynni, ac i roi rhagor o wybodaeth i'r Aelodau am effaith goleuadau rhan amser gyda'r nos.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau a ddaeth i ben am 9am ddydd Mawrth, 26 Mawrth 2024.

 

Dyddiad cyhoeddi: 12/04/2024

Dyddiad y penderfyniad: 22/03/2024

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 22/03/2024 - Bwrdd Cabinet yr Amgylchedd, Adfywio a Gwasanaethau Strydlun

Dogfennau Cefnogol: