Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Bwrdd Addysg, Sgiliau a Lles y Cabinet
Statws: Recommendations Approved
Is AllweddolPenderfyniad?: Na
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na
Penderfyniad:
Ar ôl rhoi sylw dyladwy i'r asesiad effaith integredig a'r atodiad, yn unol
â Chôd Derbyniadau Ysgol 2013 a Rheoliadau Addysg (Penderfynu ar Drefniadau
Derbyn) (Cymru), penderfynodd yr aelodau y dylid cymeradwyo'r trefniadau derbyn
ar gyfer ysgolion cymunedol mewn perthynas â blwyddyn academaidd 2025/2026, fel
sydd ynghlwm wrth yr adroddiad.
Rheswm dros y Penderfyniad:
Er mwyn galluogi'r Cyngor i gyflawni dyletswyddau statudol a chanllawiau
arfer da mewn perthynas â derbyn disgyblion i ysgolion cymunedol.
Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:
Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o
dridiau, a ddaeth i ben am 9.00am ddydd Llun, 18 Mawrth 2024.
Ymgynghoriad:
Mae angen ymgynghori â'r canlynol:
· cyrff llywodraethu ysgolion
cymunedol
· cyrff llywodraethu a
gynorthwyir yn wirfoddol (h.y. ysgolion
ffydd)
· pob awdurdod lleol
cyfagos.
Mewn
perthynas â blwyddyn academaidd 2025/2026, mae'n ofynnol cynnal yr
ymgynghoriadau hynny ddim cynt na 1 Medi 2023 a rhaid eu cwblhau erbyn 1 Mawrth
2024.
Ar
ôl i'r ymgynghoriad gael ei gwblhau, rhaid i'r Cyngor benderfynu ar ei
drefniadau derbyn erbyn 15 Ebrill 2024, naill ai yn eu ffurf wreiddiol neu
gydag addasiadau yr ystyrir eu bod yn addas.
Cynhaliwyd
ymgynghoriad rhwng 1 Rhagfyr 2023 a 12 Ionawr 2024. Roedd yr ymgyngoreion yn
cynnwys penaethiaid a chyrff llywodraethu ysgolion cymunedol a gynorthwyir yn
wirfoddol yn y Fwrdeistref Sirol (yr ardal berthnasol) ac awdurdodau lleol
cyfagos.
Ni
dderbyniwyd unrhyw sylwadau.
Dyddiad cyhoeddi: 11/04/2024
Dyddiad y penderfyniad: 14/03/2024
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 14/03/2024 - Bwrdd Addysg, Sgiliau a Lles y Cabinet
Dogfennau Cefnogol: