Statws: Recommendations Approved
Is AllweddolPenderfyniad?: Na
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na
Penderfyniad:
Ar ôl rhoi sylw dyladwy i'r asesiad effaith
integredig a'r atodiadau, mabwysiadu'r Strategaeth Treftadaeth yn ffurfiol.
Rheswm dros y Penderfyniad:
Diogelu'r Strategaeth Treftadaeth ar gyfer CNPT a
galluogi cyflawni Amcan Lles 3. Er mwyn sicrhau y gall cenedlaethau'r dyfodol
fwynhau ein hamgylchedd, ein diwylliant a'n treftadaeth leol.
Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:
Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl y
cyfnod galw i mewn o dridiau, a ddaeth i ben am 9.00am ddydd Llun, 18 Mawrth
2024.
Ymgynghoriad:
Cynhaliwyd
ymarfer ymgynghori helaeth ar gyfer y Strategaeth Treftadaeth. Dangosir
methodoleg a chanlyniadau'r ymgynghoriad yn Adroddiad Ymgynghori'r Strategaeth
Treftadaeth.
Cynhaliwyd
gweithdai wyneb yn wyneb gyda rhanddeiliaid, grwpiau treftadaeth gwirfoddol ac
arolygon ar-lein yn gofyn am adborth ar sut mae'r cyhoedd yn teimlo am y
weledigaeth, yr amcanion a'r camau gweithredu i werthfawrogi a gwarchod eu
treftadaeth a'r effaith gadarnhaol y mae'n ei chael ar eu lles a chynaladwyedd
eu grwpiau cymunedol.
Cynhaliwyd ymgynghoriad ar y Strategaeth Treftadaeth rhwng 9 Hydref a 5 Tachwedd 2023. Mae canlyniadau'r broses
ymgynghori yn cael eu hadrodd i'r Cabinet yn Adroddiad Ymgynghori'r Strategaeth
Dreftadaeth. Mae canfyddiadau'r adroddiad wedi llywio'r Strategaeth a'r Cynllun
Gweithredu.
Dyddiad cyhoeddi: 11/04/2024
Dyddiad y penderfyniad: 14/03/2024
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 14/03/2024 - Bwrdd Addysg, Sgiliau a Lles y Cabinet
Dogfennau Cefnogol: