Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Personél
Statws: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: Na
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na
Rhoddodd swyddogion grynodeb o’r cynllun i’r
aelodau, gan nodi bod y Cyngor wedi ymrwymo i Gynllun Gweithredu Addewid
Cyflogwyr Amser i Newid Cymru yn 2019. Clywodd yr aelodau fod adborth wedi dod
i law o Amser i Newid Cymru, ac maen nhw wedi nodi'r awdurdod fel cyflogwr
gweithredol.
Aeth y Pennaeth Pobl a Datblygu Sefydliadol ymlaen
i hysbysu'r Pwyllgor fod nifer o weithwyr ar draws y Cyngor yn mynd ati i
ymgysylltu fel Hyrwyddwyr Gweithwyr, gan drafod meysydd fel iechyd meddwl a'r
menopos. Diben y gwaith yw lleihau'r stigma o amgylch iechyd meddwl a chyfeirio
gweithwyr at ffynonellau cymorth ac arweiniad.
Penderfyniad:
Bod yr adroddiad yn cael ei nodi er gwybodaeth.
Dyddiad cyhoeddi: 11/04/2024
Dyddiad y penderfyniad: 11/12/2023
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 11/12/2023 - Pwyllgor Personél
Dogfennau Cefnogol: