Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Bwrdd Addysg, Sgiliau a Lles y Cabinet
Statws: Recommendations Approved
Is AllweddolPenderfyniad?: Na
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Ydy
Penderfyniad:
Ar ôl rhoi sylw dyladwy i Atodiad 1 ac Asesiad
Effaith Integredig yr adroddiad a ddosbarthwyd;
1.
Bod y maes llafur cytunedig ar
gyfer Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg ym mhob un o ysgolion Castell-nedd Port
Talbot yn cael ei gymeradwyo.
2.
Bod copïau o'r maes llafur
cytunedig yn cael eu cyhoeddi ar wefannau'r awdurdodau lleol.
3.
Bod copïau o'r maes llafur
cytunedig yn cael eu hanfon ymlaen at Lywodraeth Cymru a Chymdeithas Cynghorau
Ymgynghorol Sefydlog Addysg Grefyddol Cymru (CCYSAGauC).
Rheswm dros y Penderfyniad:
Er mwyn datblygu maes llafur cytunedig yn ôl y gyfraith
yn unol â Chwricwlwm i Gymru ar gyfer yr holl ysgolion a gynhelir gan yr
awdurdod lleol.
Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:
Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl y
cyfnod tri diwrnod galw i mewn, a ddaeth i ben am 9.00am ddydd Sul 29 Ionawr
2023.
Dyddiad cyhoeddi: 22/02/2023
Dyddiad y penderfyniad: 25/01/2023
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 25/01/2023 - Bwrdd Addysg, Sgiliau a Lles y Cabinet
Effective from: 30/01/2023
Dogfennau Cefnogol: