Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Bwrdd Gwasanaethau Cymdeithasol, Tai a Diogelwch Cymunedol y Cabinet
Statws: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: Na
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Ydy
Penderfyniad
Ar ôl rhoi sylw dyladwy i'r asesiad effaith integredig:
1.
Bwriad Pennaeth y Gwasanaethau
Oedolion yw ymrwymo i gontract gyda Llamau a Pobl er mwyn darparu gwasanaethau
llety dros dro arbenigol ar gyfer pobl ifanc digartref. Bydd y contractau hyn
am gyfnod o 12 mis gydag opsiwn i ymestyn am 12 mis arall, yn amodol ar nodi
cymal dod â chontract i ben yn gynnar yn ddi-fai ar ôl 3 mis.
2.
Rhoi cymeradwyaeth i
Swyddogion gynnal unrhyw ymgynghoriad angenrheidiol fel rhan o'r broses adolygu
a chomisiynu.
3.
Bod Swyddogion yn
cynnal ymarfer caffael ar gyfer darparu gwasanaethau llety dros dro i bobl
ifanc digartref.
4.
Rhoi awdurdod
dirprwyedig i’r Pennaeth Gwasanaethau Oedolion i ymrwymo i gontract gyda'r
cynigydd(yddion) buddugol.
Rhesymau dros y Penderfyniad Arfaethedig
Fel bod y cyngor yn gallu parhau i gyflawni ei ddyletswyddau i bobl ifanc
sy'n profi neu sydd mewn perygl o fod yn ddigartref.
Rhoi'r Penderfyniad ar Waith
Cynigir rhoi'r penderfyniad ar waith ar ôl y cyfnod tri
diwrnod galw i mewn a ddaeth i ben ar 15 Hydref 2022.
Dyddiad cyhoeddi: 08/11/2022
Dyddiad y penderfyniad: 11/10/2022
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 11/10/2022 - Bwrdd Gwasanaethau Cymdeithasol, Tai a Diogelwch Cymunedol y Cabinet
Effective from: 17/10/2022
Dogfennau Cefnogol: