Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Bwrdd Gwasanaethau Cymdeithasol, Tai a Diogelwch Cymunedol y Cabinet
Statws: Recommendations Approved
Is AllweddolPenderfyniad?: Na
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Ydy
Penderfyniad
Ar ôl rhoi sylw dyladwy i'r asesiad effaith integredig:
1. Bwriad Pennaeth y Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc yw ymrwymo i gontract gyda
Llamau ar gyfer Gwasanaeth Rheoli a Darparu Llety â Chymorth ar gyfer pobl
ifanc. Bydd y contract hwn am gyfnod o 12 mis gydag opsiwn i ymestyn am 12 mis
arall, yn amodol ar nodi cymal dod â chontract i ben yn gynnar yn ddi-fai ar ôl
3 mis.
2. Rhoi cymeradwyaeth i Swyddogion gynnal unrhyw ymgynghoriad angenrheidiol
fel rhan o'r broses adolygu a chomisiynu.
3. Bod Swyddogion yn cynnal ymarfer caffael ar gyfer darparu Gwasanaeth Rheoli
a Darparu Llety â Chymorth ar gyfer pobl ifanc.
4. Rhoi awdurdod dirprwyedig i Bennaeth y Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc i
ymrwymo i gontract gyda'r cynigydd buddugol.
Rhesymau dros y Penderfyniad Arfaethedig:
Fel bod y cyngor yn gallu parhau i gyflawni ei
ddyletswyddau i bobl ifanc a nodwyd, yr angen am lety â chymorth.
Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:
Cynigir rhoi'r penderfyniad ar
waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn a ddaeth i ben ar 15 Hydref 2022.
Dyddiad cyhoeddi: 08/11/2022
Dyddiad y penderfyniad: 11/10/2022
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 11/10/2022 - Bwrdd Gwasanaethau Cymdeithasol, Tai a Diogelwch Cymunedol y Cabinet
Effective from: 17/10/2022
Dogfennau Cefnogol: