Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Bwrdd Gwasanaethau Cymdeithasol, Tai a Diogelwch Cymunedol y Cabinet
Statws: Recommendations Approved
Is AllweddolPenderfyniad?: Na
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Ydy
Penderfyniad
Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r asesiad effaith sgrinio
integredig.
1.
Rhoi awdurdod
dirprwyedig i'r Cyfarwyddwr Gofal Cymdeithasol, Iechyd a Thai i gwblhau'r trafodaethau
â Grŵp Pobl i ymestyn y contract presennol mewn perthynas â Threm y Glyn
am gyfnod o 12 mis, gan gynnwys cytuno'r cyfraddau contract diwygiedig.
2.
Rhoi awdurdod
dirprwyedig i'r Cyfarwyddwr Gofal Cymdeithasol, Iechyd a Thai i atal gofynion
Rheolau Gweithdrefnau Contractau'r cyngor dan reol 5, yn enwedig y gofyniad am
gystadleuaeth.
3.
Ar ddiwedd y
trafodaethau hyn, ymrwymo i Weithred Amrywio i ymestyn cyfnod y contract am
gyfnod pellach o 12 mis, gyda'r costau terfynol yn cael eu hadrodd yn ôl i'r
Cabinet at ddibenion gwybodaeth.
4.
Cyflwyno strategaeth
ar gyfer gwasanaethau pobl hŷn ym mis Medi 2023 er mwyn i'r Aelodau wneud
penderfyniad gwybodus ar Drem y Glyn ar ôl mis Mawrth 2024.
Rheswm dros y penderfyniad
Sicrhau digonolrwydd gofal yng Nghastell-nedd Port
Talbot.
Rhoi'r Penderfyniad ar Waith
Cynigir rhoi'r penderfyniad ar
waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn a ddaeth i ben ar 15 Hydref 2022.
Dyddiad cyhoeddi: 08/11/2022
Dyddiad y penderfyniad: 11/10/2022
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 11/10/2022 - Bwrdd Gwasanaethau Cymdeithasol, Tai a Diogelwch Cymunedol y Cabinet
Effective from: 17/10/2022
Dogfennau Cefnogol: