Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Bwrdd Gwasanaethau Cymdeithasol, Tai a Diogelwch Cymunedol y Cabinet
Statws: Recommendations Approved
Is AllweddolPenderfyniad?: Na
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Ydy
Penderfyniadau
Ar ôl rhoi sylw dyladwy i'r asesiad effaith integredig:
1.
Rhoi awdurdod
dirprwyedig i‘r Pennaeth Gwasanaethau Oedolion i ddyrannu £240,000 o gyllid a
ddarperir drwy grant Llywodraeth Cymru er mwyn cefnogi darparwyr gofal cartref a
gomisiynwyd i gynyddu cyfraddau milltiredd ar gyfer eu gweithluoedd.
2.
Rhoi awdurdod
dirprwyedig i’r Pennaeth Gwasanaethau Oedolion i ddefnyddio £210,000 o'r grant
gan Lywodraeth Cymru sydd ar gael ar gyfer prynu ceir trydan, pwyntiau gwefru
ar gyfer cerbydau trydan a gosod pwyntiau gwefru ar gyfer cerbydau trydan ac at
ddefnydd Tîm Lles Cymunedol y cyngor i'w rhannu.
Rheswm dros y penderfyniad:
Fel bod y cyngor yn gallu dosbarthu'r grant a oedd ar gael mewn ffordd sy'n
cefnogi'r farchnad gofal cartref orau.
Rhoi'r Penderfyniad ar Waith
Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn
sy'n dod i ben 15 Hydref 2022.
Dyddiad cyhoeddi: 08/11/2022
Dyddiad y penderfyniad: 11/10/2022
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 11/10/2022 - Bwrdd Gwasanaethau Cymdeithasol, Tai a Diogelwch Cymunedol y Cabinet
Effective from: 17/10/2022
Dogfennau Cefnogol: