Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cabinet
Statws: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: Na
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Ydy
Penderfyniadau:
Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r Asesiad Effaith
Integredig, argymell y canlynol i'r cyngor i'w cymeradwyo.
1. Y
Cynllun Dyletswydd Bioamrywiaeth (2020 - 2023) fel y'i cyflwynir yn Atodiad 1
i'r adroddiad a ddosbarthwyd.
2.
Rhoi'r gweithdrefnau cyhoeddi ar waith fel y manylir arnynt yn yr
adroddiad a ddosbarthwyd.
3. Rhoi awdurdod dirprwyedig i
Bennaeth Cynllunio a Diogelu'r Cyhoedd i wneud y trefniadau angenrheidiol i'r
cyngor ddod yn llofnodwr Datganiad Caeredin ar Fioamrywiaeth Fyd-eang.
Rheswm dros y penderfyniadau:
Galluogi'r cyngor i gydymffurfio â gofynion Deddf
yr Amgylchedd (Cymru) 2016 a chydnabod rôl allweddol y cyngor o ran gweithredu
ar lefel leol ar gyfer natur, gan gefnogi'r egwyddorion a nodir yn Natganiad
Caeredin.
Rhoi'r Penderfyniadau ar Waith:
Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod
galw i mewn o dridiau.
Ymgynghoriad:
Mae'r cynllun wedi bod yn destun ymgynghoriad
mewnol ac mae ei ffurf derfynol yn adlewyrchu canlyniad y broses honno. Nid oedd yn ofynnol ymgynghori'n allanol.
Dyddiad cyhoeddi: 13/09/2022
Dyddiad y penderfyniad: 17/11/2021
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 17/11/2021 - Y Cabinet
Effective from: 22/11/2021
Dogfennau Cefnogol: