Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Cynllunio
Statws: Recommendations Approved
Is AllweddolPenderfyniad?: Na
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na
Cyflwynodd
Swyddogion adroddiad i'r Pwyllgor Cynllunio ar y cais hwn (Cais cynllunio
amlinellol (gan gynnwys mynediad) ar gyfer cyrchfan antur yn cynnwys 600 o
gabanau gwyliau/fflatiau, gwesty â 100 gwely a sba cysylltiedig, plaza canolog
yn cynnwys bwytai, gweithgareddau hamdden a siopau, gweithgareddau antur ac
adeiladau cysylltiedig (gan gynnwys chwaraeon eithafol, llethrau sgïo/alpaidd,
gweithgareddau yn y goedwig a Trax & Trail), bwytai ac adeiladau gweinyddol
a chynnal a chadw cysylltiedig a pharcio ar gyfer oddeutu 850 o geir, yn
ogystal â gweithrediadau tirlunio, draenio a pheirianneg cysylltiedig gan gynnwys
ailbroffilio tir, triniaeth ffin, adeileddau cynnal, goleuadau allanol a
theledu cylch cyfyng, a dargyfeirio hawliau tramwy cyhoeddus.
Gwybodaeth
ychwanegol a diwygiedig a dderbyniwyd ar 25/01/2019 a 07/02/2019 dan Reoliad 24
mewn perthynas â bioamrywiaeth, tirwedd ac effaith weledol, effaith economaidd
gymdeithasol a thrafnidiaeth ynghyd ag addasiadau i'r prif gynllun a chynllun
paramedrau. (Medi 2021 - Cyflwyniadau ychwanegol sy'n mynd i'r afael â
chyllid/chyflawniad datblygu, gan gynnwys Cynllun Busnes diwygiedig gan Wildfox
Resorts a'r rhaglen ddangosol; y diweddaraf am y polisi cynllunio; Nodyn dilysu
ecolegol, a mân newidiadau i'r Uwch-gynllun a'r Cynllun Paramedrau) ar dir ym
Mhen y Bryn, Croeserw, Y Cymmer, Port Talbot) fel y manylir yn yr adroddiad a
gylchredwyd.
Rhoddodd dau
gynrychiolydd ar ran yr ymgeisydd eu sylwadau, yn ogystal ag aelodau lleol y
ward a roddodd eu cefnogaeth i'r cais.
PENDERFYNWYD: |
Cymeradwyo
Cais Rhif P2018/0493, yn unol ag argymhellion swyddogion, yn amodol ar
gytundeb cyfreithiol Swyddog Adran 106 a’r wybodaeth a’r penderfyniad
diwygiedig a gynhwysir yn y Daflen Ddiwygio a gylchredwyd, yn ogystal â’r
amodau y manylir arnynt yn yr adroddiad a gylchredwyd. |
Dyddiad cyhoeddi: 23/11/2021
Dyddiad y penderfyniad: 12/10/2021
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 12/10/2021 - Pwyllgor Cynllunio
Dogfennau Cefnogol: