Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Bwrdd Strydlun a Pheirianneg y Cabinet
Statws: Recommendations Approved
Is AllweddolPenderfyniad?: Na
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Ydy
Tynnodd swyddogion sylw at y ffaith yr ymdriniwyd â
nifer o'r rhain eisoes fel rhan o raglen fuddsoddi'r cyngor, a’u bod yn
defnyddio'r un broses a gynhaliwyd dan y brif raglen adnewyddu.
Penderfyniad:
Ar
ôl rhoi sylw dyledus i gam cyntaf yr asesiad effaith integredig, rhoddir
cymeradwyaeth i swyddogion ofyn am ganiatâd a chytundeb ffurfiol gan Ystâd
Aberpergwm i fynd i mewn i Manor Drive ac adnewyddu goleuadau o dan y Ddeddf
Iechyd Cyhoeddus, fel y nodir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.
Rheswm dros y penderfyniad:
I
fynd i'r afael ag isadeiledd goleuadau stryd sydd wedi cyrraedd diwedd eu hoes
yn Manor Drive, Glyn-nedd.
Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:
Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau.
Dyddiad cyhoeddi: 28/10/2021
Dyddiad y penderfyniad: 24/09/2021
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 24/09/2021 - Bwrdd Strydlun a Pheirianneg y Cabinet
Effective from: 29/09/2021
Dogfennau Cefnogol: