Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cabinet
Statws: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: Na
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na
Penderfyniad:
Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r asesiad effaith
integredig, caiff Rheol 7 o’r Rheolau Gweithdrefn Contract ei heithrio a dylid
rhoi awdurdod dirprwyedig i'r Pennaeth Datblygu Dynol a Sefydliadol ymrwymo i
gontract dwy flynedd gyda CAM Management Solutions Limited ar y telerau fel y
nodir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.
Rheswm dros y penderfyniad:
1.
Mae'r system yn sail i
drefniadau rheoli perfformiad a rheoli risg y cyngor.
2.
Sicrhau parhad busnes, cynnal
momentwm y cynnydd da a wnaed eisoes a datblygu’n trefniadau perfformiad a
rheoli risg ymhellach (gan gynnwys rhoi'r cynllun gweithredu ar waith yn dilyn
adolygiad Archwilio Cymru o'r System Rheoli Perfformiad Corfforaethol
(CPMS). Byddai er lles pennaf cyngor i
barhau â'r trefniadau system feddalwedd presennol sydd ar waith.
Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:
Gyda chytundeb y Cadeirydd Craffu perthnasol, caiff
y penderfyniad ei roi ar waith ar unwaith (ac felly nid yw'n amodol ar y cyfnod
galw i mewn o dridiau).
Dyddiad cyhoeddi: 12/07/2021
Dyddiad y penderfyniad: 02/06/2021
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 02/06/2021 - Y Cabinet
Dogfennau Cefnogol: