Manylion y penderfyniad

Strategic School Improvement Programme - Proposal to establish an english medium 3 - 11 school to replace, Alltwen, Godre'rgraig and Llangiwg Primary Schools.

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cabinet

Statws: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: Na

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na

Penderfyniadau:

Roedd y Cabinet yn cefnogi'r cynnig i ymestyn y cyfnod ymgynghori am bythefnos arall, fel y trafodwyd yn y Cyd-bwyllgor Craffu ar Addysg, Sgiliau a Diwylliant y Cabinet a gynhaliwyd cyn y cyfarfod hwn.

 

Penderfyniadau:

 

1.   Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r asesiadau effaith mewn perthynas â chydraddoldeb, risg, defnydd cymunedol a'r iaith Gymraeg, ac i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru 2015), ynghyd â'r goblygiadau cyfreithiol, dylid cymeradwyo, yn unol ag Adran 48 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 ymgynghori ar y cynnig i sefydlu ysgol cyfrwng Saesneg 3 – 11 oed gyda chanolfan cymorth dysgu arbenigol, mewn adeiladau newydd i letya disgyblion o ddalgylchoedd presennol Ysgol Gynradd Alltwen, Ysgol Gynradd Godre'r-graig ac Ysgol Gynradd Llan-giwg y byddai pob un ohonynt yn cau ar 31 Awst 2024.  Y dyddiad gweithredu arfaethedig fydd 1 Medi 2024.

 

2.   Bydd yr ymgynghoriad yn dechrau ar 3 Tachwedd 2020 ac yn dod i ben ar 19 Ionawr 2021, mae hyn yn cynnwys y pythefnos ychwanegol.

 

3.   Bydd yr adroddiad ymgynghori yn cael ei gyhoeddi ar 26 Chwefror 2021.

 

Rheswm dros y penderfyniad:

 

Galluogi'r Awdurdod Lleol i gydymffurfio â'r gofynion ymgynghori ffurfiol a osodir ar yr Awdurdod Lleol gan y Côd Trefniadaeth Ysgolion.

 

Yn ogystal â hyn, yn amodol ar ganlyniad yr ymgynghoriad, byddai rhoi'r cynnig ar waith yn galluogi'r Awdurdod Lleol i hyrwyddo safonau addysgol uchel a chyflawni potensial pob plentyn.  Byddai hefyd yn galluogi'r Awdurdod Lleol i gyflawni ei ddyletswydd i sicrhau addysg effeithlon yn ei ardal.

 

Rhoi Penderfyniadau ar Waith:

 

Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau.

 

Ymgynghoriad:

 

1.        Cyflwynir y cynnig hwn ar gyfer trefniadaeth ysgolion dan Raglen Strategol Gwella Ysgolion y cyngor. Mae angen ymgynghoriad ffurfiol yn unol â Chod Trefniadaeth Ysgolion Llywodraeth Cymru, Tachwedd 2018, sy'n nodi'r gweithdrefnau i'w dilyn, gan gynnwys cynnwys y ddogfen ymgynghori a'r rheini y dylid ymgynghori â hwy.

 

2.        Yn amodol ar gymeradwyaeth, bwriedir ymgynghori ar y cynnig hwn rhwng 3 Tachwedd 2020 a 19 Ionawr 2021 - gweler yr amserlen isod.  Mae hyn yn caniatáu 5 wythnos ychwanegol at y 6 wythnos statudol i ymgyngoreion ystyried y cynnig a chyflwyno ymateb. Caiff yr ymatebion i'r ymgynghoriad eu hadrodd i'r Cabinet i'w hystyried gan yr Aelodau ym mis Ebrill 2021.

 

3.        Os bydd aelodau, ar ôl ystyried yr ymatebion, yn penderfynu bwrw ymlaen â’r cynnig, yna bydd cyfnod o 28 niwrnod yn dilyn ar gyfer cyflwyno gwrthwynebiadau.

 

Cyhoeddi dogfen ymgynghori

3 Tachwedd 2020

Cyfnod i gyflwyno ymatebion

3 Tachwedd 2020 -  19 Ionawr 2021

Cyhoeddi'r Adroddiad ar yr Ymgynghoriad

26 Chwefror 2021

Dyddiad arfaethedig ar gyfer rhoi'r cynnig ar waith

1 Medi 2024

 

4.        Wrth sefydlu ysgol newydd mae angen sicrhau bod digon o amser yn cael ei neilltuo i alluogi gwneud penderfyniadau mewn modd ystyriol ac amserol, a hefyd wrth adeiladu ysgol newydd mae angen llawer iawn o amser ar gyfer cynllunio i sicrhau bod yr adeilad terfynol yn diwallu anghenion a dyheadau'r disgyblion, y staff a'r gymuned a fydd yn ei defnyddio. Felly, mae angen dechrau prosesau statudol ar hyn o bryd er mwyn sicrhau bod digon o amser ar gael i gwblhau'r holl brosesau angenrheidiol.

 

5.        Bydd gwybodaeth am y cynnig a'r ddogfen ymgynghori ar gael ar-lein ar wefan y cyngor a hefyd ar wefannau'r ysgolion yr effeithir arnynt. Bydd copïau caled hefyd ar gael ar gais.

 

6.        Bydd yr holl ymgyngoreion, yn unol â chyfarwyddyd y Côd, yn derbyn y ddogfen Ymgynghori drwy e-bost. Bydd sianelau cyfryngau cymdeithasol y cyngor hefyd yn cynnwys gwybodaeth am sut i gyrchu’r ddogfen ymgynghori.

 

7.        Gellir cyflwyno ymatebion i'r ymgynghoriad hefyd gan ddefnyddio'r Porth Ymgynghori ar wefan y cyngor, neu drwy e-bostio SSIP@npt.gov.uk, neu'n ysgrifenedig. 

 

8.        Oherwydd y sefyllfa barhaus o ran iechyd y cyhoedd ni fydd unrhyw ddigwyddiadau ymgynghori wyneb yn wyneb yn cael eu trefnu ar gyfer yr ymgynghoriad hwn. Gellir cyflwyno cwestiynau ynghylch y cynnig i SSIP@npt.gov.uk.

 

Bwriad swyddogion yw cyfarfod â disgyblion yn ystod y diwrnod ysgol, naill ai o bell neu'n bersonol yn dibynnu ar farn yr ysgolion a'r rhieni, ac ar ganllawiau Iechyd Cyhoeddus Cymru sydd ar waith.                                                                                   

 

 

 

 

 

Dyddiad cyhoeddi: 28/10/2020

Dyddiad y penderfyniad: 21/10/2020

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 21/10/2020 - Y Cabinet

Dogfennau Cefnogol: