Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Bwrdd Gofal Cymdeithasol, Iechyd a Lles y Cabinet
Statws: Recommendations Approved
Is AllweddolPenderfyniad?: Na
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na
Penderfyniad:
Cymeradwyo ymestyn y cytundeb prydles rhwng Cyngor
Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot a Chyngor Gwasanaethau Gwirfoddol
Castell-nedd Port Talbot am gyfnod o dri deg chwe mis calendr rhwng 1 Ebrill
2020 a 31 Mawrth 2023 ar delerau ac amodau y mae Pennaeth y Gwasanaethau Plant
a Phobl Ifanc yn cytuno arnynt mewn ymgynghoriad â'r Pennaeth Eiddo ac Adfywio.
Rheswm dros y penderfyniad:
Galluogi’r Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc i
ymrwymo i gytundeb prydles gyda CGGCNPT ar gyfer 36 Stryd y Berllan, Castell-nedd
SA11 1HA fel y gellir parhau i ddefnyddio'r adeilad i ddarparu lle anffurfiol a
hygyrch fel y gellir gweithio'n uniongyrchol gyda phlant, pobl ifanc a'u
teuluoedd.
Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:
Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod
galw i mewn o dridiau.
Dyddiad cyhoeddi: 21/01/2021
Dyddiad y penderfyniad: 12/03/2020
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 12/03/2020 - Bwrdd Gofal Cymdeithasol, Iechyd a Lles y Cabinet
Dogfennau Cefnogol: