Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Bwrdd Strydlun a Pheirianneg y Cabinet
Statws: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: Na
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Ydy
Penderfyniadau:
1.
Rhoi'r terfyn cyflymder 40mya (Gorchymyn
Rheoleiddio Traffig) sydd ar yr A48 ym Margam, Port Talbot (fel a fanylwyd yn
Atodiad A yr adroddiad a ddosbarthwyd) ar waith ar y safle.
2.
Gwrthod y gwrthwynebiadau a gweithredu'r Terfyn Cyflymder
30mya (Gorchymyn Rheoleiddio Traffig) ar Ten Acre Wood, Lôn Fynediad i Orendy
Margam a Grugwyllt Fawr, Margam, Port Talbot (fel y nodir yn Atodiad A yr adroddiad
a ddosbarthwyd) ar y safle fel y'i hysbysebwyd a hysbysu'r gwrthwynebwyr yn
unol â hynny.
Rheswm
dros y penderfyniadau:
Lleihau cyflymder cerbydau er diogelwch y briffordd.
Rhoi Penderfyniadau ar Waith:
Caiff y penderfyniadau eu rhoi ar waith ar ôl y
cyfnod tri diwrnod galw i mewn.
Ymgynghoriad:
Mae'r eitem hon wedi bod yn destun ymgynghoriad
allanol.
Dyddiad cyhoeddi: 02/09/2020
Dyddiad y penderfyniad: 28/02/2020
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 28/02/2020 - Bwrdd Strydlun a Pheirianneg y Cabinet
Effective from: 04/03/2020
Dogfennau Cefnogol: