Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cabinet
Statws: Recommendations Approved
Is AllweddolPenderfyniad?: Na
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na
Esboniodd y Prif Weithredwr, oherwydd y cyhoeddwyd
y setliad cyllidebol drafft gan Lywodraeth Cymru'n hwyr, y byddai’r cyfnod
ymgynghori yn para am dair wythnos a hanner yn unig.
Gofynnodd aelodau am eglurhad ynghylch y geiriad ar
gyfer SSHH 1002, a diwygiwyd hyn gan swyddogion, fel yr isod:
O (newidiwyd y testun teip italig trwm):
Cyfeirnod |
Disgrifiad |
Prif Effeithiau |
Cyllideb Net 2019/20 |
% yr arbedion |
2020/21 £000 |
2021/22 £000 |
2022/23 £000 |
SSHH 1002 |
Adolygiad o becynnau gofal ar y cyd CNPT a CIC |
CNPT i gyfrannu 50% o'r costau, heb gyfraniad y defnyddwyr gwasanaeth.
Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe fydd yn talu'r gost ychwanegol. Bydd
arbedion net yn dilyn er bod £80mil wedi’i wario ar gyngor cyfreithiol ac
adennill dyledion. |
28,630 |
0% |
28 |
0 |
0 |
I (newidiwyd y testun teip italig trwm):
Cyfeirnod |
Disgrifiad |
Prif Effeithiau |
Cyllideb Net 2019/20 |
% yr arbedion |
2020/21 £000 |
2021/22 £000 |
2022/23 £000 |
SSHH 1002 |
Cyfraniadau oddi wrth y Bwrdd Iechyd tuag at gost parhau i gynnig
pecynnau gofal iechyd |
CNPT i gyfrannu 50% o'r costau, heb gyfraniad y defnyddiwr gwasanaeth.
Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe fydd yn talu'r gost ychwanegol. Bydd
arbedion net yn dilyn er bod £80mil wedi’i wario ar gyngor cyfreithiol ac
adennill dyledion. Ni fydd unrhyw effaith ar ddefnyddwyr gwasanaeth unigol. |
28,630 |
0% |
28 |
0 |
0 |
Penderfyniad:
Rhoi awdurdod i'r Prif Weithredwr ddiwygio geiriad
y ddogfen ymgynghori (fel yr uchod) ac ymgynghori â'r cyhoedd ynghylch yr arbedion
cyllideb drafft, newidiadau i wasanaethau a chynigion incwm ychwanegol, y
manylwyd arnynt yn Atodiad 1 yr adroddiad a ddosbarthwyd.
Rheswm dros y Penderfyniad:
Dechrau ymgynghoriad ar gyllideb ddrafft 2020/21.
Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:
Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod
tri diwrnod galw i mewn.
Ymgynghoriad:
Bydd yr eitem hon yn destun ymgynghoriad allanol.
Dyddiad cyhoeddi: 11/02/2020
Dyddiad y penderfyniad: 10/01/2020
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 10/01/2020 - Y Cabinet
Dogfennau Cefnogol: