Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio
Statws: Recommendations Approved
Is AllweddolPenderfyniad?: Na
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na
Rhoddwyd trosolwg i'r aelodau o'r adroddiad a
ddosbarthwyd.
Tynnodd yr aelodau sylw at benawdau'r colofnau ar y
dudalen gyntaf ac y byddai'n werth ailadrodd penawdau'r colofnau ar bob
tudalen. Gofynnodd yr aelodau am fwy o eglurder mewn perthynas â'r dyddiadau
targed a'r ymadroddion “i'w cadarnhau” (TBC) ac “i'w cyhoeddi” (TBA).
Esboniodd y swyddogion y bydd y gwaith hwn yn cael ei
ystyried cyn y cyfarfod ym mis Gorffennaf, a hoffent ddiweddaru adroddiadau'r
rheoleiddwyr i roi mwy o ystyr ac ychwanegu rhywfaint o werth i'r adroddiadau.
Dywedodd y swyddogion y byddent yn gallu cau rhai o'r argymhellion yr
ymdriniwyd â nhw eisoes, ac y byddant yn myfyrio ar yr argymhellion agored ar
gyfer cynnydd pellach.
PENDERFYNWYD:
Nodi'r adroddiad.
Dyddiad cyhoeddi: 07/07/2025
Dyddiad y penderfyniad: 20/05/2025
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 20/05/2025 - Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio
Dogfennau Cefnogol: