Manylion y penderfyniad

Extinguishment Orders for Part of Footpath No.38 - Cillybebyll

Statws: For Determination

Is AllweddolPenderfyniad?: Na

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na

Penderfyniadau:

Penderfyniad:

 

Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r Asesiad Effaith Sgrinio Integredig, cyflwyno Gorchymyn Diddymu yn unol ag Adran 118 o Ddeddf Priffyrdd 1980 mewn perthynas â'r llwybr a ddangosir fel C-C1-D ar y cynllun sy’n atodedig i’r adroddiad a ddosbarthwyd, ac os na dderbynnir unrhyw wrthwynebiadau i'r gorchymyn, yna cadarnhau'r gorchymyn fel y gwnaed.

 

Rheswm dros y Penderfyniad:

 

·        Mae angen datrys y mater o'r hyd yma o lwybr sy'n croesi dros ddwy ardd.

·        O ganlyniad i'r datblygiad tai, collwyd y llwybr gwreiddiol trwy’r cae, ond gellir cael mynediad ar draws y safle o Heol Castell-nedd i lwybr cyhoeddus rhif 39 o hyd ar hyd ffyrdd yr ystâd yn bennaf.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn sy'n dod i ben am 9am ddydd Mawrth, 6 Rhagfyr 2022.

 

Dyddiad cyhoeddi: 10/01/2023

Dyddiad y penderfyniad: 02/12/2022

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 02/12/2022 - Bwrdd Cabinet yr Amgylchedd, Adfywio a Gwasanaethau Strydlun

Dogfennau Cefnogol: