Manylion y penderfyniad

Extinguishment of Part of Footpath No.21 - Cillybebyll

Statws: For Determination

Is KeyPenderfyniad?: Na

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na

Penderfyniadau:

Penderfyniad:

 

Ar ôl rhoi sylw dyladwy i'r Asesiad Sgrinio Effaith Integredig, cyflwyno Gorchymyn Diddymu Llwybr Cyhoeddus yn unol ag adran 118 o Ddeddf Priffyrdd 1980 ar gyfer y llwybr a ddangosir fel A-B ar y cynllun sy’n atodedig i’r adroddiad a ddosbarthwyd, ac os na wneir unrhyw wrthwynebiadau, cadarnhau'r gorchymyn fel y gwnaed.

 

Rheswm dros y Penderfyniad:

 

·        Nid oes angen llwybr o’r hyd hwn at ddefnydd y cyhoedd o ystyried bod llwybr addas arall drwy'r llwybr A-C sy'n ymuno â'r droedffordd ochr yn ochr â Heol y Graig sy'n cysylltu â phwynt C.

·        Nid yw hyd gwreiddiol llwybr A-B ar gael mwyach ac mewn unrhyw achos mae graddiant y clawdd o'r tai y tu cefn i'r ffordd bengaead hyd at bwynt B yn fwy serth na thrwy'r droedffordd hyd at bwynt C.

·        Nid oes llwybr addas arall ar gyfer hyd A-B.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn sy'n dod i ben am 9am ddydd Mawrth, 6 Rhagfyr 2022.

 

Dyddiad cyhoeddi: 10/01/2023

Dyddiad y penderfyniad: 02/12/2022

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 02/12/2022 - Bwrdd Cabinet yr Amgylchedd, Adfywio a Gwasanaethau Strydlun

Dogfennau Cefnogol: