Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cabinet
Statws: For Determination
Is AllweddolPenderfyniad?: Na
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Ydy
Penderfyniadau:
1.
Bod y risgiau sy'n
gysylltiedig â mabwysiadu System Wybodaeth Gofal Cymunedol Cymru ar hyn o bryd
yn cael eu hasesu fel rhai sy'n gorbwyso'r manteision a ragwelir;
2.
Bod Cyfarwyddwr y Gwasanaethau
Cymdeithasol, Iechyd a Thai yn oedi cyfranogiad yn y rhaglen nes bod y risgiau
a nodwyd wedi'u lliniaru'n ddigonol;
3.
Bod Cyfarwyddwr y Gwasanaethau
Cymdeithasol, Iechyd a Thai yn gweithio ochr yn ochr â chydweithwyr TGCh
corfforaethol ac yn buddsoddi yn natblygiad System Wybodaeth y Gwasanaethau
Cymdeithasol o fewn Oracle Apex hyd nes y bernir bod System Wybodaeth Gofal
Cymunedol Cymru yn addas at y diben.
Rheswm
dros y penderfyniadau:
Er mwyn galluogi'r
cyngor i ddatblygu System Wybodaeth y Gwasanaethau Cymdeithasol o fewn Oracle
Apex, a fydd yn sicrhau bod gennym ddatrysiad TGCh wedi'i gynllunio'n benodol
ar gyfer anghenion Cyfarwyddiaeth y Gwasanaethau Cymdeithasol, yn ogystal â
chael ei adeiladu ar lwyfan a fydd yn darparu amgylchedd sefydlog i TGCh hyd y
gellir rhagweld.
Rhoi
Penderfyniadau ar Waith:
Caiff y penderfyniad ei
roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau.
Dyddiad cyhoeddi: 19/02/2021
Dyddiad y penderfyniad: 08/01/2021
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 08/01/2021 - Y Cabinet
Effective from: 13/01/2021
Dogfennau Cefnogol: